Teledu

RSS Icon
08 Tachwedd 2012

Y ’Stafell yn agor y drws i ganolfannau tebyg - Y Byd a'r Bedwar

Mae mudiadau a sefydliadau o bob cwr o’r byd yn dangos diddordeb mewn dilyn model 'Stafell Fyw Caerdydd yn y gwaith o drin pobl sy’n ddibynnol ar alcohol, cyffuriau a nifer o ddibyniaethau eraill.

Dyna ddywed Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr canolfan 'Stafell Fyw Caerdydd, canolfan a fydd yn bwnc y rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar nos Fawrth, 13 Tachwedd.

Fe fydd y rhaglen yn cyfweld â Wynford Ellis Owen a nifer o bobl sy’n ymweld â’r Ganolfan i helpu trin eu dibyniaethau.

Mae’r rhaglen yn cael ei dangos 14 mis ar ôl i’r ganolfan agor yn Y Rhath, Caerdydd ac ers Medi 2011 mae wedi croesawu dros 200 o gleifion, gan drefnu encilfeydd a chymorth i deulu’r cleifion hefyd.

Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill sy'n gyfrifol am sefydlu'r elusen a dywed Wynford Ellis Owen, sy’n Brif Weithredwr ar yr elusen honno hefyd, fod y ganolfan yn torri tir newydd gan gynnig model adferiad sy’n wahanol i’r model meddygol, aciwt.

"Mae’r system gofal i bobl â dibyniaeth yn un sydd wedi’i chyfyngu o ran amser ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Dim ond am gyfnod byr, 3 neu 6 mis ar y mwyaf, y maen nhw’n cynnig rehab (neu 8 sesiwn o gynghori, d’weder) a dyw hynny ddim yn ddigon i bobl â chyflyrau chronic hirdymor. Mae’r gefnogaeth a therapïau hirdymor yma yr ydym ni’n eu cynnig yn adeiladu ar waith y Gwasanaeth Iechyd," meddai’r actor, sy’n adnabyddus am ei onestrwydd wrth drafod ei ddibyniaeth ei hun i alcohol ers talwm.

"Mae’r ffaith ein bod yn cynnig therapïau gwahanol i’r Gwasanaeth Iechyd ac yn barod i drin dibyniaethau eraill heblaw alcoholiaeth a dibyniaeth cyffuriau, fel anorexia, bulimia, gorfwyta, rhyw a gamblo, yn golygu bod diddordeb mawr yn ein gwaith y tu hwnt i Gaerdydd. Mae pobl o ardaloedd eraill ac ar draws y byd yn ymweld â ni gyda golwg ar sefydlu canolfannau tebyg yn eu hardaloedd neu wledydd eu hunain," meddai Wynford Ellis Owen.  “Cyfrinach triniaeth – a chyfrinach y Stafell Fyw” ychwanega  “yw’r ffordd rydan ni’n “trin” pobl.”

Mae’r Stafell, sydd ar agor ar gyfartaledd o 10 awr 5 diwrnod yr wythnos (y nod yn fuan yw bod ar agor 7 diwrnod yr wythnos), yn cael ei rhedeg gan staff bychan sy'n trefnu bod arbenigwyr a gwirfoddolwyr ar gael i gynnig cefnogaeth ac ôl-ofal hir dymor i’r dioddefwyr. Mae yna addewid hefyd i weld pawb o fewn diwrnod iddynt gysylltu â’r ganolfan.

Mae’n cael ei hariannu gan gyfraniadau oddi wrth nifer o elusennau a dywed bod gan y Ganolfan ddigon o gyllid am flwyddyn arall o leiaf.

Mae hefyd yn gobeithio ehangu’r therapïau i faes gofal plant a phobl ifanc ac yn trafod y posibilrwydd o gydweithio ag elusen genedlaethol yr NSPCC.

"Tydan ni ddim yn ffocysu ar y problemau ond ar yr hyn sy’n bosibl. Mae’n ffordd wahanol o drin dibyniaeth," meddai Wynford. “Rydan ni’n rhoi’r dioddefwr yn sedd y gyrrwr fel tae. Ef neu hi sy’n gyrru’i fws adferiad. Rydyn ni’n eistedd ar y sedd gefn, talu am y petrol a mynd hefo nhw ar y reid.”

Fe gafodd Wynford Ellis Owen ysgoloriaeth Winston Churchill i fynd i America ym 2010 i Philadelphia, Vermont, Connecticut, Washington a Virginia i weld canolfannau tebyg ar waith. Trwy’r profiad hynny, fe sylweddolodd ei bod yn bosib cynnig gwasanaeth sy’n ategu gwaith y gwasanaeth iechyd. Yn ei eiriau e mae'n "Stafell sy’n agor y drysau i ystafelloedd eraill o ran triniaeth, yn ogystal a bywyd newydd."

Meddai, "Pan gafodd y Gwasanaeth Iechyd ei sefydlu yn wreiddiol, doedd dim disgwyl i’r gwasanaeth gynnig y cwbl. Roedd disgwyl i bobl wella gartref gyda’r teulu ond dyw’r gefnogaeth draddodiadol honno ddim yn bodoli i’r un graddau heddiw. Rydyn ni’n gallu cynnig rhyw faint o’r gefnogaeth hynny."

Dywed bod "nifer o sefydliadau ac elusennau" wedi ystyried y Ganolfan fel "bygythiad" yn y lle cyntaf ond bod llawer yn ei gweld bellach fel ychwanegiad defnyddiol i’r gwasanaeth cyfan.

"Dwi’n meddwl bod y sector gwirfoddol a phreifat yn gallu cynnig syniadau creadigol newydd ar gyfer helpu pobl â dibyniaethau. Fedr y Gwasanaeth Iechyd ddim gwneud popeth."

Y Byd ar Bedwar, nos Fawrth, 13 Tachwedd, 9.00pm, S4C

 

Rhannu |