Teledu

RSS Icon
08 Tachwedd 2012

Dewis neu Dynged: Mae Alys yn ôl ac mae’n brwydro dros ei dyfodol

Twyll, rhagfarn, cariad a thrais. Dim ond rhai o’r rhwystrau sy’n cael eu gosod rhwng Alys a dyfodol gwell iddi hi a’i phlentyn wrth i gyfres newydd ddechrau ar S4C nos Sul, 11 Tachwedd.

Mae’r ferch ddigyfaddawd wnaeth osod sialens i gynulleidfa S4C yng nghyfres gyntaf drama feiddgar Siwan Jones yn ei hôl i’n herio am yr eildro. A'r tro hwn, a fydd Alys yn gallu torri’n rhydd o drafferthion ei gorffennol a gwireddu ei breuddwydion?

Mae ail gyfres y ddrama hon yn ein dwyn unwaith eto i’r dref fechan yng ngorllewin Cymru lle mae bywyd ar y wyneb yn wahanol iawn i’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig.

Mor hawdd yw twyllo, ac eto mor anodd yw anghofio’r twyll hwnnw.

Sara Lloyd-Gregory sy’n chwarae rhan Alys, y fam sengl sy’n ceisio’i gorau i sicrhau bywyd gwell i’w mab, Daniel. Mae hi wrth ei bodd yn cael y cyfle i bortreadu’r ferch benderfynol hon unwaith eto.

“Mae’n wych cael bod nôl ar set Alys,” meddai Sara. “Ro’n i’n eitha’ pryderus y tro cyntaf yn arbennig felly gan fod Siwan Jones wedi sgwennu’r rhan yn arbennig ar fy nghyfer i. Y tro hwn, mae wedi bod yn llawer mwy cyfforddus ac yn gyffrous iawn.

“Mae Alys yn gymeriad cryf ond wy’n credu ei bod hi hefyd ar goll. Does ganddi hi ddim teulu agos, mae ei ffrindiau fel teulu iddi hi. Mae’n darganfod ei hun yng nghanol sefyllfaoedd hollol wallgof ambell waith. Mae ganddi’r ddawn rhywsut i fynd o un hunllef i’r llall!

Gydag Alys a Daniel erbyn hyn wedi symud o fflat dywyll yng nghanol y dref i dŷ cyngor, mae’r newid lleoliad yn dod â phobl newydd a phrofiadau newydd i fywyd y teulu bach. Mae bywyd y gymuned yn dod â chryn dipyn o hiwmor i mewn i’r gyfres, ond mae’r cymeriadau yn canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd hefyd. Y cwestiwn mawr yw sut byddan nhw’n ymateb?

“Unwaith eto, mae’r awdur Siwan Jones yn gwthio ffiniau yn y gyfres hon,” meddai cynhyrchydd Alys, Paul Jones. “Aeth y gyfres gyntaf ati’n raddol i ddadorchuddio’r haenau gwahanol sy’n bodoli oddi fewn ein cymdeithas. Mae’r ail gyfres hon yn fwy o thriller, gydag elfen iasoer gref yn perthyn iddi.”

Daw sawl cymeriad newydd i fywyd Alys yn y gyfres hon gyda Gareth Jewell (Baker Boys, The Indian Doctor) a Richard Harrington (Pen Talar, Bleak House, Lark Rise to Candleford) ymhlith yr enwau sy’n ymuno a’r cast.

 

Alys

Nos Sul 11 Tachwedd 9.00pm, S4C

Hefyd, nos Fercher 14 Tachwedd 10.00pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Apollo (rhan o grŵp cynyrchiadau Boom) ar gyfer S4C

 

Rhannu |