Teledu

RSS Icon
18 Hydref 2012

Carwyn yn ôl i Grymych ar ôl gadael Fferm Ffactor

Y ffermwr ifanc Carwyn James o Grymych yw'r diweddaraf i adael y gyfres Fferm Ffactor.

Cafodd ei anfon adref gan y beirniaid ar ddiwedd y rhaglen ar nos Fercher, 17 Hydref.

"Dwi'n siomedig. 'Ro'n i wedi disgwyl mynd ym mhellach, ond 'na fe, penderfyniad y beirniaid yw e yn y diwedd," meddai Carwyn, sy'n gweithio ar fferm 300 erw gyda'i fam a'i frawd.

Yn ystod y gyfres fe welon ni Carwyn yn pluo a pharatoi iâr, yn gyrru tractor o amgylch cwrs o rwystrau ac yn dyfalu oed, pwysau a brid gwartheg ym marchnad Rhuthun. Ond cafodd ei anfon adref wedi i'w dîm golli pob tasg yn y rhaglen nos Fercher.

Caryl oedd yn arwain y tîm a’r rhai eraill yn y tîm oedd Geraint a Dilwyn. Cafon nhw eu curo mewn tasg corlannu a chneifio defaid, ac fe fethon nhw ag adeiladu tractor flat pack o fewn tair awr.

"'Ro'n i'n amau mai un ohonom ni oedd yn mynd. Do'n i ddim yn gwybod pa un, ond falle do'n i ddim yn disgwyl mai fi fyddai’n mynd," meddai Carwyn. "'Ro'n i wedi gwneud yn eitha’ da yn y rhaglen flaenorol. 'Ro'n i wedi adnabod brid, pwysau ac oed y gwartheg i gyd yn gywir ac wedi gwneud yn dda yn gyrru'r tractor. Roedd yn sioc gadael dim ond yr wythnos wedyn. Fe wnes i fy ngorau, ond byddwn i wedi licio cael mwy o amser i ddangos beth rydw i'n gallu gwneud."

Yn 19 mlwydd oed, Carwyn oedd y cystadleuydd ieuengaf erioed i gystadlu yn Fferm Ffactor, ond dydi o ddim yn credu bod hynny'n ormod o anfantais.

"Falle yn y tasgau fel Y Gader roedd fy oedran yn anfantais achos bod dim gymaint o brofiad 'da fi. Ond, dwi ddim yn credu ei fod wedi bod yn ormod o anfantais ar y cyfan," meddai, cyn ychwanegu ei fod wedi elwa llawer o'r profiad.

"Dwlen i weld mwy o ffermwyr ifanc yn trio. Byddwn i'n argymell y profiad, yn bendant. Dwi wedi dysgu lot yn cynnwys cneifio a pharatoi'r cyw iâr a fi hefyd wedi dysgu sut i ddeall pobol o Ogledd Cymru yn siarad!"

Yr wythnos hon bydd y ffermwyr yn cael cyfle i ddangos eu sgiliau a’u gwybodaeth o’r diwydiant llaeth, yn cynnwys godro’r fuches a rheoli porfa. Pa un fydd yn gorfod rhoi’r goriad yn ôl a gadael Fferm Ffactor am byth?

Fferm Ffactor

Bob nos Fercher 8.25

 

Rhannu |