Teledu

RSS Icon
17 Mawrth 2011

Gêm Stwnsh ar ffôn symudol

Gallwch fwynhau oriau o hwyl yn chwarae gêm newydd Stwnsh – y gwasanaeth i bobl ifanc rhwng 7 a 13 oed – ar eich dyfais symudol drwy lawr lwytho ap newydd sbon heb wario ceiniog.

 

Mae S4C yn mentro i fyd technoleg i blant unwaith eto yn dilyn llwyddiant ap y gwasanaeth meithrin, Cyw, i gynnwys gêm o wefan Stwnsh – s4c.co.uk/stwnsh.

 

Byti - y gêm rygbi sy’n gweld y bêl rygbi yn herio peli eraill fel y bêl fâs, y bêl droed a’r bêl fowlio mewn cyfres o sialensiau i gyd-fynd â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad - yw’r gêm gyntaf i Stwnsh ryddhau ar ffurf ap.

 

Gyda’r gêm fawr rhwng Cymru ac Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, profwch eich sgiliau rygbi chi gyda’r ap arbennig hon.

 

Hefyd, bydd Stwnsh yn rhyddhau gemau newydd ichi chwarae am ddim yn achlysurol a bydd modd casglu’r gemau yn archif eich ffôn a’u chwarae dro ar ôl tro.

 

Bydd yr ap, sydd wedi’i gynllunio gan Cube Interactive ar ran Boomerang+ – y cwmni sy’n cynhyrchu darpariaeth Stwnsh i S4C – ar gael am ddim o iTunes i ddyfeisiau symudol Apple iPhone, iPod Touch ac yn gweithio ar iPad. Bydd yr ap hefyd ar gael i’w ddefnyddio ar ffonau Android.

 

Gallwch hefyd barhau i lawr lwytho ap arbennig Cyw, sy’n cynnwys straeon, caneuon a gemau o fyd lliwgar Cyw. Gallwch lawr lwytho ap Cyw yn syth i’ch ffôn symudol er mwyn cynnig adloniant i’r plant bob adeg o’r dydd.

 

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C: “Mae cynnig estyniad i wasanaeth teledu ac ar-lein Stwnsh yn dangos fod S4C ar flaen y gad ym myd technoleg i blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n dilyn llwyddiant ysgubol ap Cyw. Mae dros fil o bobl wedi ei lawr lwytho ers lansio’r dechnoleg newydd ar ddiwedd 2010.”

Rhannu |