Teledu
Lowri'n edrych i goncro'r Arctig
BYDD y cyflwynydd Lowri Morgan yn cychwyn taith epig arall fory, Mawrth 18, fydd yn ei gweld yn gwthio ei chorff i’r eithaf yn nhymheredd oer a chreulon yr Arctig.
Ras 6633 Ultra yw’r sialens sy'n wynebu Lowri mewn cyfres newydd o Ras yn Erbyn Amser. Gall gwylwyr S4C ddilyn ei siwrnai, o’r paratoadau cynnar i’r ras fawr, yn y gyfres bedair rhan sy’n dechrau nos Iau 24 Mawrth.
Mae hi bellach yn ddeunaw mis ers i Lowri redeg ras anodda' ei bywyd hyd yn hyn – Marathon Jwngl yr Amazon. Yn y ras honno, daeth yn drydydd ymhlith y merched er gwaethaf y lleithder a'r tymheredd crasboeth.
Ond yn y ras 6633 Ultra, bydd yr her yn fwy byth. Bydd disgwyl iddi deithio 350 o filltiroedd dros gyfnod o wyth ddiwrnod a byw'n gwbl hunangynhaliol. Mae’r ras ymhlith yr anoddaf yn y byd. Dim ond pum person sydd erioed wedi llwyddo i’w chwblhau ers ei chychwyn yn 2007 a menyw sy’n dal y record orau ar hyn o bryd.
"Ar ôl Marathon y Jwngl, teimlais fod rhywbeth ar goll a gymerais i bum mis i redeg eto," esbonia Lowri, sy’n wreiddiol o Dregŵyr ger Abertawe. "Collais i gewynnau fy nhraed, ges i bothellau poenus dan fy nhraed ac roedd fy nghorff wedi’i wthio i’r eithaf. Roedd angen gorffwys ar fy nghorff. Ond, rwy’n cydnabod fod yr her sy’n fy nisgwyl nawr yn fwy o beth ac mae’r canlyniadau pe bai pethau’n mynd o chwith yn beryglus."
Yn yr Arctig, bydd Lowri’n brwydro yn erbyn tymheredd oddeutu -30?C i -40?C. Yn y gorffennol, mae’r tymheredd yn ystod y ras wedi gostwng i -93?C. Er mwyn ceisio dygymod â’r fath amgylchiadau, mae Lowri wedi bod yn hyfforddi’n galed yn ystod y flwyddyn yn rhedeg pellteroedd o 140 milltir yr wythnos, yn arbrofi tymheredd oer Sweden ac yn dod i arfer â’r holl offer fydd angen arni.
Meddai Lowri, "Mae’r gallu i edrych ar ôl eich hun mewn tymheredd sydd ymhell o dan y rhewbwynt yn fwy o beth nag unrhyw paratoi ffitrwydd. Mae cloi zip y sach gysgu yn beth syml ym mywyd bob dydd, ond wrth ychwanegu blinder ac amodau creulon ac oer yr Arctig, mae’n anoddach o lawer. Paratoi’n drylwyr yw’r gwahaniaeth rhwng methu a llwyddo ond mae sialens yr Arctig yn dra gwahanol i’r paratoi yng Nghymru.
"Er gwaethaf yr holl bethau negyddol all fynd o'i le, rwy wir yn edrych ymlaen at ddechrau cam nesaf y sialens. Mae wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd i am flwyddyn ac felly rwy’n ysu i gael clywed y chwiban gyntaf a dechrau’r ras yn iawn."
Bydd Lowri yn codi arian at elusen Shelter Cymru wrth redeg y ras. Gallwch ei noddi drwy ymweld â’r wefan: www.sheltercymru.org.uk
Ras yn Erbyn Amser
Nos Iau 24 Mawrth 20:25, S4C
Hefyd, nos Wener 25 Mawrth 21:50, S4C
Isdeitlau Saesneg