Teledu

RSS Icon
11 Hydref 2012

Fferm Ffactor yn anfon dau o'r ffermwyr adref

Eilir ac Anna yw'r ddau gyntaf i adael cystadleuaeth Fferm Ffactor 2012, wedi i'r beirniaid eu hanfon adref ar ddiwedd y rhaglen ar nos Fercher, 10 Hydref.

Mae Eilir Pritchard, o Sir Fôn, ac Anna Jones, o Drefdraeth yn Sir Benfro, yn siomedig fod y profiad ar ben mor fuan.

"Roeddwn i'n reit siomedig 'mod i wedi cael fy anfon adre' yn gynta’ a dweud y gwir. Doeddwn i ddim wedi disgwyl ennill, ond ro'n i'n meddwl y baswn i wedi mynd ychydig bach yn bellach," meddai Eilir, sy'n ffermio fferm laeth yng Ngherrigceinwen, Sir Fôn.

"Mi wnes i fwynhau gwneud y tasgau. Doeddwn i 'rioed wedi pluo iâr o'r blaen, ac felly roedd y dasg yna yn brofiad da ac yn gyfle i ddysgu. Faswn i ddim wedi gwneud hynny heblaw am Fferm Ffactor."

Yn ystod eu cyfnod ar Fferm Ffactor fe welon ni'r ddau yn pluo a pharatoi iâr, yn gyrru tractor o amgylch cwrs o rwystrau ac yn dyfalu oed, pwysau a brid gwartheg ym marchnad Rhuthun. Roedden nhw hefyd wedi chwysu wrth wynebu cwestiynau heriol yr Athro Wynne Jones yn nhasg Y Gadair.

"Roedd e'n lot fwy o sbort nag ro'n i wedi meddwl ond yr unig beth do'n i ddim wedi ystyried oedd yr elfen emosiynol," meddai Anna, sydd yn ffan mawr o Fferm Ffactor ac wedi gwylio pob un o'r cyfresi blaenorol.

"Doedd dim syniad 'da ni beth ro'n ni'n gorfod gwneud tan y funud ola' felly roedd pawb yn becso o flaen llaw ac yn falch wedyn fod y dasg drosodd. Yn bendant byddwn i wedi gwneud yn well ar y cwrs rhwystrau petawn i ar geffyl yn lle gyrru tractor! Liciwn i weld rhai o'r bechgyn yna yn trio reidio ceffyl!" meddai Anna, sy'n rheolwraig Fferm Ceffylau Gwedd Dyfed ac yn hoff iawn o farchogaeth yn ei hamser hamdden.

Yn y rhaglen nesaf, ar nos Fercher, 17 Hydref, bydd y ffermwyr yn wynebu tasg o ddidol a chneifio defaid. Hefyd, pwy fydd yn colli limpyn dan bwysau o orfod adeiladu tractor a hynny yn erbyn y cloc! Ac ar ddiwedd y rhaglen, pa ffermwr arall fydd yn gorfod gadael Fferm Ffactor am byth?

Lluniau: Eilir Pritchard ac Anna Jones

 

 

Rhannu |