Teledu

RSS Icon
05 Hydref 2012

Platfform i serennu ar lwyfan ryngwladol

MAE S4C wedi cyhoeddi cytundeb i gynhyrchu cyfres dditectif newydd fydd yn cael ei dangos yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd Mathias, cyfres newydd gan Fiction Factory yn dechrau saethu yn yr Hydref. Richard Harrington fydd yn chwarae’r prif gymeriad, DCI Tom Mathias gyda Marc Evans yn cyfarwyddo a Gethin Scourfield ac Ed Talfan yn cynhyrchu.

Mae’r gyfres yn gyd-gynhyrchiad rhwng S4C, Tinopolis, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac ALL3MEDIA International, a bydd yn cael ei dangos ar S4C yn 2013. Dyma’r gyfres ddrama gyntaf i gael ei chynhyrchu yn y ddwy iaith ar gyfer darlledu ar S4C a BBC Cymru Wales. Mi fydd y fersiwn Saesneg, dan yr enw Hinterland, yn cael ei ddarlledu ar BBC Cymru Wales yn 2014 a’i ddosbarthu’n rhyngwladol gan ALL3MEDIA International.

Arwr y gyfres yw DCI Tom Mathias sy’n dod i Aberystwyth i chwilio am ddechrau newydd. Er bod yr euogrwydd am ei orffennol yn ei boenydio, mae Mathias yn dditectif greddfol a dawnus sy’n mynnu cyfiawnder, ac yn llwyddo er gwaethaf ei ddulliau anarferol.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys S4C: “Mae Mathias yn gyfres gynhyrfus, iasol a dyfeisgar a fydd yn cyflwyno straeon na ellid mo’u colli.

“Mae yna ddilyniant enfawr i gyfresi ditectif cyfoes ac rwy’n hyderus y bydd Mathias yn apelio at wylwyr presennol S4C a chynulleidfaoedd newydd.

“Mae Aberystwyth yn lleoliad hynod ddiddorol ar gyfer cyfres o’r fath – cymysgedd o’r trefol a’r gwledig a fydd yn cael ei weld mewn cyd-destun cwbl newydd.

“Mae hwn yn brosiect mawr iawn i S4C ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio yn agos gyda nifer o bartneriaid wrth gynhyrchu Mathias.”

Dywedodd Ed Thomas, uwch-gynhyrchydd a chyd-grëwr y gyfres: “Fel cwmni i ni’n ymdrechu i gynhyrchu drama sy’n adlewyrchu Cymru fodern a deinamig. Gyda Mathias – ac o gofio poblogrwydd y ‘genre’ – mae gennym gyfle i roi platfform i dalent Gymreig serennu ar lwyfan lleol a rhyngwladol.”

Bydd y gwaith ffilmio yn digwydd yng Ngheredigion, gyda thref Aberystwyth a rhai o adeiladau a lleoliadau nodweddiadol yr ardal yn chwarae rôl allweddol yn y ddrama.

 

Rhannu |