Teledu

RSS Icon
28 Medi 2012

Hywel Gwynfryn yn dewis ei dri lle

Hywel Gwynfryn sy’n dewis ei hoff lefydd yr wythnos hon yn rhaglen gyntaf y gyfres newydd o 3 Lle. Mae’r gyfres yn rhoi cyfle i ni fynd o dan groen rhywun adnabyddus a dod i adnabod y llefydd hynny sy’n bwysig ym mywyd yr unigolyn hwnnw.

Mae’r darlledwr o Ynys Môn, sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, wedi crwydro’r byd yn ystod ei yrfa hir fel darlledwr, ond mae’r llefydd y mae wedi eu dewis i gyd yng Nghymru.

Mae'n aros yn ei filltir sgwâr gyda’i ddewis cyntaf, Theatr Fach, Llangefni. Roedd dychwelyd i’r theatr ar gyfer y gyfres yn gwneud iddo sylweddoli, meddai, "pa mor bwysig oedd Theatr Fach Llangefni yn fy magwraeth."

Mae’n sôn am sut y cafodd ei gyfle cyntaf fel actor ar lwyfan y theatr honno. Yn fachgen 10 oed, fe gamodd i’r adwy pan aeth actor ifanc arall yn sâl 10 diwrnod cyn dechrau cynhyrchiad. Llwyddodd i ddysgu ei ran yn ystod y 10 diwrnod hwnnw, ac ar ôl hynny, aeth o nerth i nerth.

Ond nid atgofion melys yn unig sydd gan Hywel am ei fagwraeth. Wrth siarad am ei fywyd teuluol a’i rieni yn ystod y cyfnod hwn, mae Hywel yn siarad yn onest ac yn datgelu ei deimladau tuag at ei rieni.

Ail ddewis Hywel ydy Castell Caerdydd. Dyma oedd lleoliad y Coleg Cerdd a Drama pan gyrhaeddodd Hywel y brifddinas i ddechau ar gwrs coleg yno.  "Ro’n i’n teimlo fy mod wedi dianc yma. O’r diwedd, ro’n i’n rhydd," meddai.

Mae’n hel atgofion am ei wers gyntaf yn y coleg wnaeth ddod i ben gydag Hywel yn gwneud ymadawiad dramatig iawn trwy ffenestr agored!  Mae hefyd yn cofio cael gwersi ffensio yn y Tŵr Du gan Sbaenwr ecsentrig. Wrth grwydro o amgylch Castell Caerdydd mae’n datgelu sut y dechreuodd ei yrfa fel darlledwr ar ddiwedd ei gwrs coleg. Mae’n cofio’r dyddiau da, a chyfnod anodd iddo yng nghanol yr 90au pan adawodd y brifddinas cyn dychwelyd i Gaerdydd unwaith eto yn ddiweddarach.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yw dewis olaf Hywel. Mae llyfrgelloedd, meddai, yn "fannau i enaid gael llonydd". Mae’n dotio ar y Llyfrgell Genedlaethol, yn mynd yno i ymlacio ac i weithio. "Mae’n lle academaidd ond nid lle i academics ydy o, ein llyfrgell ni ydy hi."

Unwaith eto, mae’n siarad yn onest am ei deimladau a’r bwlch emosiynol a arferai fod yn ei fywyd. Mae’n datgelu nad yw byth yn edrych yn ôl ond yn edrych ymlaen trwy’r amser ac yn hoffi sialens newydd.

Yn 70 oed, mae’n cyfaddef mai ei ddymuniad fyddai cael byw am byth. "Mae tipyn wedi’i gyflawni ond mae mwy i’w gyflawni. Gobeithio y ga' i’r iechyd i gario ymlaen," meddai.

 3 Lle: Hywel Gwynfryn

Nos Iau 11 Hydref 8.25pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Apollo (rhan o grŵp Cynyrchiadau Boom) ar gyfer S4C

 

Rhannu |