Teledu

RSS Icon
20 Medi 2012

Mae'r her ar ddechrau - Fferm Ffactor 2012

Mae deg ffermwr arall wedi derbyn yr her wrth i Fferm Ffactor ddychwelyd ar gyfer cyfres newydd. Mae taith hir ac emosiynol o'u blaenau fydd yn arwain at un enillydd buddugoliaethus, a naw cystadleuydd siomedig.

Mae'r her yn dechrau nos Fercher, 3 Hydref felly beth sydd gan y bedwaredd gyfres i'w gynnig?

"Mae'r gyfres yn bendant yn mynd o nerth i nerth. Maen nhw'n gystadleuwyr hynod o dalentog a'r tasgau yn hynod o heriol," meddai Daloni Metcalfe, cyflwynydd Fferm Ffactor, sydd hefyd yn cyflwyno'r gyfres gefn gwlad ac amaeth, Ffermio.

"Rydyn ni'n profi'r cystadleuwyr mewn pob math o feysydd, sy'n dangos yr amrywiaeth yn y byd amaeth yng Nghymru. Mae gan bawb ei gryfder, a phob un ei arbenigedd, ond ar Fferm Ffactor mae'n rhaid i ti gael ymwybyddiaeth dda o bob math o ffermio. Ond yn bwysicaf oll, rhaid bod yn ymwybodol mai bwyd rwyt ti'n ei gynhyrchu. Dyna ydy diben pob un ffarmwr ar ddiwedd y dydd," ychwanega Daloni.

"Yn sicr, dydy hi ddim yn gystadleuaeth hawdd, a dwi'n dweud ym mhob cyfres fod pwy bynnag fydd yn ennill yn llwyr haeddu'r wobr."

Yn gosod yr her ac yn beirniadu'r cystadleuwyr mae'r Athro Wynne Jones ac Aled Rees, enillydd y gyfres gyntaf yn 2009. Y nhw yn y pendraw fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael gyrru adref yn y brif wobr - cerbyd Isuzu D-Max Yukon 4x4.

Yn ogystal â chadw trefn ar y cystadlu, mae Daloni yn hapus yn ei rôl yn cynnig cefnogaeth emosiynol i'r cystadleuwyr, wrth i gystadleuwyr gael eu hanfon adref o wythnos i wythnos.

"Dwi yn licio bod yn gysur iddyn nhw, ond mi wyt ti yn teimlo'n ofnadwy pan maen nhw'n gorfod gadael. Dwi bob tro yn pwysleisio mai'r beirniaid sy'n penderfynu pwy sy'n gadael, nid fi. Dydy o ddim yn hawdd ond mae pawb yn gwybod mai dim ond un enillydd sydd yna ar ddiwedd y gystadleuaeth."

Mewn rhaglen awr o hyd i ddechrau'r gyfres newydd, byddwn yn gweld rhai o'r cystadleuwyr mewn awyrgylch fwy cartrefol, gartre' ac wrth eu gwaith. Byddwn hefyd yn cael mwynhau'r her arbennig gynhaliwyd ar faes Y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf, pan enillodd un o'r ffermwyr feic modur ATV newydd sbon, yn rhodd gan werthwyr Honda yng Nghymru.

Ond, does dim amser i ymlacio. Mae'r her gyntaf yn galw, ac yn sgil hynny, y perygl y bydd un ohonyn nhw'n gorfod gadael y gystadleuaeth.

Fferm Ffactor

Nos Fercher 3 Hydref 8.25pm, S4C

Hefyd, nos Wener 5 Hydref 10.35pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

 

Rhannu |