Teledu

RSS Icon
20 Medi 2012

Dynion sy’n cael eu cam-drin gan eu partneriaid benywaidd

Mae'r rhaglen ddiweddaraf yng nghyfres ddogfen S4C O'r Galon yn trafod problem sy’n cael fawr ddim sylw - dynion sy’n cael eu cam-drin gan eu partneriaid benywaidd.

Bydd y rhaglen O'r Galon: Cariad sy’n Curo nos Fercher, 26 Medi yn cynnwys cyfweliadau gyda dau ddyn sydd wedi cytuno i siarad am y gamdriniaeth maen nhw wedi’i dioddef gan eu cyn bartneriaid. Mae hefyd yn gofyn a oes yna ddigon o gefnogaeth ar gyfer problem sy'n fwy cyffredin nag yr ydym yn tybio.

Yn ôl ffigurau'r heddlu, mae nifer y menywod sy’n cam-drin eu partneriaid yng Nghymru a Lloegr wedi cynyddu o 800 yn 2004-5 i dros 4000 yn 2010-11.

Wrth fynd ar drywydd y straeon yma, fe wnaeth cwmni cynhyrchu Barefoot Rascals wahodd chwe dyn a oedd wedi cael eu cam-drin yn seicolegol, emosiynol ac/neu’n gorfforol gan eu partneriaid benywaidd i gymryd rhan mewn gweithdy Fforwm Theatr.

Yn ystod y sesiwn yma, clywyd straeon dirdynnol a dywedodd y dynion i gyd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn annheg gan y system a bod diffyg cefnogaeth ar gyfer dynion.

Mae'r dynion sydd wedi dewis siarad yn tynnu sylw at sefyllfa dynion sydd wedi cael eu cam-drin, ond yn teimlo na allant ddatgelu eu henwau rhag ofn y caiff effaith ar eu plant a’u teuluoedd. Yn y rhaglen, ceir ail-greu dramatig yn ogystal â’r cyfweliadau.

Dywedodd Dyn A fod ei bartner wedi ei alw yn rhywun "da i ddim" mor aml fel yn y diwedd '"dach chi’n coelio fo".

"Cyn y berthynas yma, ro’n i’n berson reit hyderus, ychydig bach o jac-the-lad ella, ond rŵan dwi bob tro’n stepio yn ôl o bethau… Nid dim ond fy hyder mae 'di lladd, mae 'di lladd f’enaid i hefyd," meddai.

"Gwraidd y broblem ydi bod neb yn gwrando ar lais dyn. Mae cymdeithas yn derbyn rŵan bod o’n digwydd i ferched ond does neb yn coelio bod o’n digwydd i ddyn."

Dywedodd Dyn B iddo gael ei fygwth a’i gam-drin yn aml gan ei gyn bartner er mai fe wynebodd achos llys yn ei erbyn ar sail "cyhuddiad ffug".

Meddai Dyn B, "Wnes i ddysgu bod y system yn d’erbyn di os wyt ti’n ddyn. Fe wnaeth hi gyhuddiad yn f'erbyn i, yn dweud fy mod i am kidnapio’r plant. Fe wnaeth yr heddlu ddweud bo fi ddim yn cael mynd o fewn dwy filltir i’r plant."

Dywedodd y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr Frances Adie, bod cwrdd â’r dynion yma wedi newid llawer o’i rhagdybiaethau hi am gam-drin yn y cartref.

"Pan ddechreuais i ymchwilio i'r pwnc, roeddwn i’n tybio bod dynion yn dioddef yn dawel oherwydd eu bod yn teimlo embaras neu ofn am beth fyddai cymdeithas yn meddwl ohonyn nhw. Sylweddolais yn fuan fod y rhesymau y tu ôl i ddistawrwydd y dynion yn llawer mwy cymhleth na hynny," meddai Frances. "Mae’r dynion yma’n fregus ar ôl dioddef camdriniaeth yn y cartref ac yn gorfod wynebu bygythiadau na fyddan nhw’n cael gweld eu plant. Mae’n anodd cael y cymorth iawn, gan nad oes digon o wasanaethau ar gael i gefnogi’r dynion.

"Mae'r rhaglen hon yn rhoi llais i ddynion sydd wedi dioddef camdriniaeth yn y cartre’ a bydd hefyd yn gofyn cwestiynau fel, 'A oes digon o gymorth ar gael i ddynion? Ac a yw'r cyllid sydd ar gael i gefnogi grwpiau yn cael eu rhannu’n deg neu a yw grwpiau cymorth i ddynion yn cael bargen wael?"

Mae'r rhaglen wedi ymgynghori ag amrywiaeth o grwpiau a mudiadau gan gynnwys Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd, Prosiect Dyn, TAD Cymru - Dau Riant Angen, Gwasanaeth Trais yn y Cartre’ Gorwel, Cymorth i Fenywod Cymru a Heddlu Gwent.

 

O’r Galon: Cariad Sy’n Curo

Mercher 26 Medi 9.00pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Barefoot Rascals

 

Rhannu |