Teledu

RSS Icon
11 Mawrth 2011

Byw yn y Byd

Ym mhennod olaf cyfres Byw yn y Byd ar S4C, bydd Russell Jones yn gweld sut mae gwaith yr ymgyrch Masnach Deg yn helpu ffermwyr coffi ar fynydd Kilimanjaro yn Tanzania.

Yn y rhaglen ar nos Fercher 16 Mawrth am 20:25, bydd Russell yn ymweld â phobl y Wachagga sy’n ffermio ar lethrau dwyreiniol a de mynydd Kilimanjaro. Drwy’r undeb cydweithredol y Kilimanjaro Co-Operative Union mae’r ffermwyr yma yn darparu tua 5,300 tunnell o goffi Arabica sy’n cael ei hallforio drwy’r cynllun Masnach Deg.

“Roedd yn wych gweld yr ymgyrch Masnach Deg ar waith,” meddai Russell am yr ymweliad â’r ffermwyr coffi. “Mi wnes i eu helpu nhw i gasglu’r aeron coffi o’r llwyni, a gweld sut roedden nhw’n prosesu’r ffa i greu paned. Mae Masnach Deg wedi bod yn help mawr iddyn nhw drwy ddod ag incwm sy’ wedi eu galluogi nhw i fyw bywyd gwell.”

Mae’r rhaglen yn dilyn ymgyrch flynyddol Pythefnos Masnach Deg, ar 28 Chwefror i 13 Mawrth, oedd yn dathlu masnachu teg a moesol.

Mae’r gyfres bedair rhan Byw yn y Byd wedi dilyn Russell ar antur i Kenya a Tanzania i weld sut mae cynlluniau elusennol yn helpu’r bobl i fyw ar y tir a pharatoi yn well ar gyfer goroesi cyfnodau o sychder.

 Darllenwch ragor am y gyfres ar y wefan s4c.co.uk/ffeithiol a gwyliwch Byw yn y Byd ar-lein s4c.co.uk/clic

 Byw yn y Byd

S4C, Mercher 16 Mawrth 20:25

Llun: Russell gyda Rafael a Flora Msoka – tyfwyr coffi o bentref Msuni ar lethrau Kilimanjaro

Rhannu |