Teledu
Pennaeth drama newydd
Mae BBC Cymru Wales wedi penodi Faith Penhale yn Bennaeth Drama. Bydd Penhale yn ymuno â BBC Cymru o Kudos Film and Television, lle mae hi’n Rheolwr Creadigol ac yn Uwch Gynhyrchydd ar hyn o bryd.
Pan fydd yn dechrau ar y swydd yn ddiweddarach eleni, bydd Penhale yn ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros gyfeiriad strategol adran lwyddiannus iawn, gan gynnwys y strategaeth ddatblygu fewnol a chysylltiadau â chwmnïau annibynnol blaenllaw.
Yn ei swydd bresennol, mae Faith Penhale yn ymwneud â chefnogi sylfeini creadigol Kudos , ac mae’n gweithio fel uwch gynhyrchydd ar brosiectau drama pwysig. A hithau gyda chefndir llwyddiannus ym maes datblygu a chynhyrchu, mae Penhale, a aned ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn gweithio'n agos gydag awduron a chyfarwyddwyr dawnus, ac yn meithrin awduron newydd. Mae ei chynyrchiadau llwyddiannus yn cynnwys dramâu poblogaidd sydd wedi ennill gwobrau, megis Spooks ar gyfer BBC One a The Fixer ar gyfer ITV1.
Bydd Piers Wenger, a ymunodd â BBC Cymru yn 2007, ac a fu’n cydweithio â Stephen Moffat a Beth Willis er mwyn cyflwyno Doctor Who ar ei newydd wedd gyda Matt Smith, yn parhau â’i swydd fel arweinydd creadigol amrywiaeth o raglenni allweddol, gan gynnwys Doctor Who .
Wenger oedd yn gyfrifol am ail-lansiad llwyddiannus Upstairs Downstairs hefyd, ac am yr anfarwol Eric and Ernie , y ddrama fwyaf llwyddiannus ar BBC Two am dros ddegawd. Ac yntau wedi bod yn Bennaeth Drama yn y gorffennol, erbyn hyn mae’n dymuno canolbwyntio’n fwy penodol ar reoli ei arlwy o raglenni mewnol, ac ar ddatblygiad creadigol prosiectau unigol, gan gynnwys addasiad pum rhan Syr Tom Stoppard o nofel Ford Madox Ford, Parade’s End , ar gyfer BBC Two.
Mae Faith Penhale yn ymuno mewn cyfnod o dŵf anferthol i BBC Cymru, wrth i Casualty symud i Gymru yn ystod yr hydref, gan ymuno â Doctor Who, Pobol y Cwm ac Upstairs Downstairs yng nghanolfan cynhyrchu dramâu newydd Porth y Rhath ym Mae Caerdydd. Mae hyn yn dilyn y cynnydd trawiadol yn lefelau cynhyrchu’r rhwydwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd yn ymuno â thîm talentog a llwyddiannus iawn sydd hefyd yn cynnwys Bethan Jones ( Merlin /Shine, Sherlock/ Hartswood).
Yn ôl Clare Hudson, Pennaeth Rhaglenni Saesneg BBC Cymru Wales: “Mae BBC Cymru wedi bod yn hynod o ffodus i gael amrywiaeth neilltuol o bobl ddawnus yn gwneud eu gwaith gorau gyda ni dros y blynyddoedd diwethaf. Rwyf wrth fy modd bod Faith wedi cytuno i arwain adran ddrama BBC Cymru i’r cyfnod cyffrous nesaf yn ei datblygiad; bydd sector creadigol Cymru drwyddo draw hefyd yn elwa'n fawr o’i sgiliau a’i gweledigaeth.”
Dywedodd Ben Stephenson, Rheolydd, Adran Comisiynu Dramâu’r BBC: “Mae gan Faith weledigaeth ac egni creadigol rhagorol, ynghyd â chysylltiadau hynod ddawnus, felly rwy'n falch iawn ei bod wedi cytuno i ddychwelyd at ei gwreiddiau yng Nghymru! Mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y diwydiant drama yng Nghymru - yn ogystal â chynnal cysylltiadau â chwmnïau annibynnol yng Nghymru, rydym hefyd yn awyddus i adeiladu ar lwyddiannau'r adran fewnol er mwyn ei gwneud hyd yn oed yn fwy cyffrous a bywiog. Rwy’n ffyddiog y bydd Faith yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno uchelgeisiau Adran Ddrama’r BBC, drwy weithio gydag amrywiol awduron ar nifer o wahanol ddramâu dilys a gwreiddiol.”
Meddai Faith Penhale: “Mae’n bleser gennyf ymuno ag adran mor gyffrous sydd â hanes llwyddiannus o gynhyrchu rhai o'r dramâu amlycaf ar y teledu ym Mhrydain. Rwy'n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn Kudos yn helpu i ddatblygu’r adran ymhellach ac adeiladu ar ei llwyddiant.”
Dywedodd Piers Wenger, “Rwy’n hynod o falch y bydd gan Gymru rywun gwych a phrofiadol fel Faith yn cyflwyno’r genhedlaeth nesaf o raglenni. Mae’r adran wedi bod yn torri tir newydd ar draws portffolio eang o raglenni mewnol a chan gwmnïau annibynnol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae’n gyffrous iawn i bob un ohonom gael rhywun gyda gallu enfawr Faith i adeiladu ar eu llwyddiannau."
Meddai Jane Featherstone yn Kudos: “Bu’n bleser gweithio gyda Faith yn Kudos, a hoffem ddiolch iddi am fod yn aelod ardderchog o'r tîm creadigol am nifer o flynyddoedd. Rydym yn gwybod y bydd yn llwyddo yn ei rôl newydd yng Nghymru, a gobeithiwn yn fawr y gallwn barhau i weithio gyda hi yn rhinwedd y swydd honno.”