Teledu

RSS Icon
31 Awst 2012

Dathlu eicon rygbi Cymru

Mae un o eiconau rygbi Cymru, Delme Thomas, yn nodi dwy garreg filltir bwysig yn ei fywyd eleni.

Mae’r blaenwr chwedlonol yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed ac ym mis Hydref fe fydd cefnogwyr y Scarlets yn nodi deugain mlynedd ers i Delme arwain Llanelli i fuddugoliaeth enwog o 9 - 3 yn erbyn Seland Newydd ym Mharc y Strade yn 1972.

Bydd Delme Thomas: Brenin y Strade, rhaglen ddogfen arbennig ar S4C ar nos Sul 9 Medi, yn codi’r clawr ar y cawr mwyn o Sir Gaerfyrddin, a chwaraeodd yn safle’r clo i Lanelli, Cymru a’r Llewod ar dair taith.

Mae’r gŵr a gafodd ei fagu ym mhentre’ Bancyfelin ac sy’n byw yng Nghaerfyrddin yn cael ei ystyried yn ŵr tawel, mwyn a llawn hiwmor cynnes oddi ar y cae rygbi ond roedd yn galed ac yn benderfynol ar faes y gad.

Ond mae’r rhaglen afaelgar ac emosiynol hefyd yn datgelu’r gwewyr a fu yn ei fywyd wrth iddo ymladd iselder ysbryd a threulio cyfnod yn yr ysbyty ar ôl rhoi’r gorau i chwarae rygbi yn y 1970au. 

Bu camerâu Tinopolis yn dilyn Delme am gyfnod gan ei ffilmio yn ei gartre’ gyda’i wraig Bethan a’i deulu; gyda’i ffrindiau agos ym Mancyfelin; gyda’r cyd chwaraewyr buddugol yn erbyn y Crysau Duon ar 31 Hydref 1972 ac mewn lleoedd pwysig eraill yn ei fywyd fel hen gae’r Strade, Capel Annibynwyr Bancyfelin a’r garafán yn Amroth, Sir Benfro.

Mae yna gyfweliadau gydag aelodau o dîm ‘72 fel Phil Bennett, Derek Quinnell, Gwyn Ashby, Meirion Davies a Roger Davies. Bydd ei ffrind agos Lyn Jones, cyn hyfforddwr Cymru Clive Rowlands a Mari Gravell, gwraig y diweddar Ray Gravell a oedd yn gyfaill mynwesol i Delme, hefyd yn hel atgofion am yr arwr rygbi.

Mae’r rhaglen yn olrhain ei fagwraeth hapus ym Mancyfelin, y pentref lle y magwyd y chwaraewyr rhyngwladol presennol Mike Phillips a Jonathan Davies.

Fe ddaeth yn amlwg yn yr ysgol uwchradd yn San Clêr fod ganddo ddawn arbennig fel chwaraewr rygbi ac arwyddodd gytundeb gyda Llanelli pan oedd yn 18 oed yn 1961.

“Rwy’n dihuno ambell waith yn gobeithio mai breuddwydio yw bod y Strade wedi mynd achos fan hyn oedd – ac mae – fy nghalon i. Fe wnes i gymaint o ffrindiau yma – roeddwn ni fel teulu mawr – whare fan hyn ar y Strade oedd amser gorau fy mywyd,” meddai.

Dyma oedd dechrau gyrfa ddisglair ag arweiniodd ato’n cael ei ddewis ar gyfer taith Llewod i Seland Newydd yn 1966 cyn cael ei gap cyntaf. Fe deithiodd gyda’r Llewod dairgwaith i gyd, ennill 22 cap dros Gymru, gan gynnwys blwyddyn y Gamp Lawn yn 1971, heb sôn am fod yn gapten ysbrydoledig i’w glwb.

Mae Clive Rowlands yn edmygydd mawr ohono. “Roedd e fel tad i’r chwaraewr ac roedd ganddo’r ddawn i fod yn fam iddyn nhw hefyd,” meddai. “Mae mamau yn fwy mwyn. Roedd ganddo’r gallu i gael nhw i siarad ag e a’u gwneud nhw’n chwaraewyr gwell achos o’n nhw ddim yn chwarae i Lanelli yn unig ond yn chwarae i Delme hefyd.”

Mae araith Delme cyn iddyn nhw wynebu Seland Newydd yn rhan o chwedloniaeth y Scarlets bellach – ac roedd ei yrfa rygbi’n llawn uchelfannau eraill.

Ond yn y rhaglen hefyd, mae’n cydnabod iddo wynebu cyfnod anodd iawn ar ôl ymddeol, a bu’n rhaid iddo adael ei waith gyda’r Bwrdd Trydan am gyfnod.

Meddai Delme, “Dechrau’r wythdegau es i drwy gyfnod gwael a mynd i deimlo’n isel iawn a bod off fy ngwaith am bytu chwe mis. Bues i’n Ysbyty Glangwili ymbytu dau fis, o’n i ffaelu gweld bod golau tu draw i’r twnnel. Ro’n i wedi trafaelio cymaint wrth chwarae rygbi ac yna ar un waith roedd popeth wedi dod i ben.”

 

Delme Thomas: Brenin y Strade

Nos Sul 9 Medi 9.00pm; S4C

Ailddarllediad Nos Wener 14 Medi 10.00pm

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar Alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

 

Rhannu |