Teledu

RSS Icon
31 Awst 2012

Torri tir newydd ym myd darlledu plant

Camwch i mewn i’r Lifft – cyfres arloesol newydd ar Stwnsh ar S4C fydd yn dechrau ar ddydd Mercher 12 Medi.

Am y tro cyntaf ym myd darlledu plant ym Mhrydain, bydd modd i bobl ifanc gwylio cyfres gwis ar deledu ond hefyd chwarae’r gemau ar y cyd ar ail sgrin yn eu cartrefi.

Bydd y gwylwyr yn cael eu hannog i chwarae adre’ ar yr un pryd â’r cystadleuwyr yn y stiwdio drwy fynd i’r wefan – www.ylifft.com – neu lawrlwytho’r ap newydd sydd bellach ar gael ar ddyfeisiau ffôn neu dabled.

Ar ddiwedd y gêm, bydd y sgôr yn cael eu hychwanegu at sgorfwrdd Y Lifft a bydd y chwaraewyr ar frig y tabl ar ddiwedd y gyfres yn ennill gwobrau, gan gynnwys iPod Touch, offer gemau a thalebau iTunes.

Ym mhob rhaglen bydd tri chystadleuydd yn gorfod datrys saith pos ar ddyfais touch-screen yn y stiwdio – i gyd yn erbyn y cloc ac o fewn waliau cyfyng Y Lifft. Os na fyddan nhw’n llwyddo, bydd rhaid i un ohonynt adael Y Lifft neu bydd eu gwobr yn lleihau.

Owain Williams sydd yn cyflwyno’r gyfres ryngweithiol newydd ac yn y rhaglenni mae’r daith yn dechrau ar y llawr gwaelod gyda £300 o dalebau'n cael eu cynnig fel gwobr.

Ar ôl cyrraedd y llawr uchaf, mae’n rhaid datrys y côd i agor y drysau a rhyddhau’r cystadleuwyr – a hynny yn erbyn y cloc. Efallai bydd yn rhaid dewis rhwng gwario rhan o'r wobr er mwyn ennill rhai o’r tîm yn ôl, neu geisio am y wobr heb eu cymorth nhw.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant, Addysg a Dysgwyr S4C, “R’yn ni wrth ein boddau yn cynnig cyfres ryngweithiol Y Lifft i gynulleidfa Stwnsh. Mae defnyddio ail-sgrin i gystadlu adre’ yn cynnig cyfle unigryw i bawb ymuno yn yr hwyl ac ennill gwobrau.

“Erbyn hyn, mae’r gwyliwyr wedi hen arfer defnyddio mwy nag un sgrin ar yr un pryd felly mae’r gyfres yma yn adlewyrchu’r tueddiadau diweddaraf ymysg gwylwyr ifanc. Nid yn unig gall bobl ifanc Cymru gwylio Y Lifft a chwarae ar yr un pryd, mae yna gyfle i ennill gwobrau a pherchenogi’r gyfres fydd ar S4C hyd at Nadolig.”

Syniad gwreiddiol cwmni cynhyrchu Boomerang a Cube Interactive yw Y Lifft yn dilyn arbrawf gyda fformat ail sgrin debyg yn ddiweddar.

Meddai Angharad Garlick, Uwch Gynhyrchydd y gyfres o gwmni Boomerang, “Fe wnaethon ni greu dyfais ryngweithiol debyg gyda’r gystadleuaeth Clic Slic ar gyfres ddiwethaf Stwnsh Sadwrn. Mae Y Lifft yn adeiladu ac yn ehangu ar lwyddiant y fformat hwnnw. Mae datblygiadau ym myd technoleg newydd yn newid ar raddfa gyflym iawn ac mae pobl ifanc yn ymateb i’r newidiadau yn hawdd. Erbyn hyn, mae defnyddio ail sgrin ar yr un pryd yn naturiol iawn iddyn nhw.”

Llun: Owain Williams

Rhannu |