Teledu
Ti, Fi a Cyw yn annog rhieni i ddysgu Cymraeg
Annog rhieni di-Gymraeg i ddysgu'r iaith wrth fwynhau rhaglenni Cyw gyda'i plant yw bwriad gwasanaeth arloesol newydd S4C.
Ti, Fi a Cyw yw enw'r adnodd ddigidol newydd fydd yn darparu geirfa, cyfieithiadau ac awgrymiadau i gyd-fynd â rhai o raglenni mwyaf poblogaidd Cyw.
Yn ystod slot Ti, Fi a Cyw rhwng 7.00 ac 8.00 o'r gloch bob bore, gan ddechrau 1 Medi, bydd ffrwd Twitter @tifiacyw yn cyd-fynd â'r rhaglen. Er na fydd unrhyw wahaniaeth i'w weld ar y sgrin deledu, drwy ddilyn y ffrwd drydar ar sgrin gyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol bydd modd i rieni fwynhau gwers Gymraeg ysgafn wrth wylio.
Does dim rhaid bod yn aelod o Twitter i ddilyn @tifiacyw. Bydd modd cyrraedd y ffrwd drwy wefan Cyw yn ogystal – s4c.co.uk/cyw.
Bydd Ti, Fi a Cyw yn cael ei lansio am 4.00pm prynhawn Iau, 9 Awst, ym mhabell S4C ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant S4C, "Mae plant wrth eu boddau’n gwylio Cyw gyda’u rhieni. Ond mae dros hanner y plant sy’n gwylio’n rheolaidd yn dod o deuluoedd lle nad Cymraeg yw iaith y cartref.
"Bydd gwasanaeth newydd @tiafiacyw yn annog rhieni di-Gymraeg a dysgwyr i ymuno yn yr hwyl o wylio Cyw gyda’u plant ac yn cynnig cyfle i ddysgu’r iaith ar yr un pryd. Y gobaith yw rhoi hyder i rieni i ddefnyddio cynnwys Cymraeg a’u hannog i fynd ymlaen i ddysgu Cymraeg yn ffurfiol, os ydyn nhw eisiau."
Y gobaith yw mai man cychwyn yn unig fydd Ti, Fi a Cyw, a bydd cyfrif @tifiacyw yn fodd i rieni gysylltu a sgwrsio â'i gilydd.
"Bydd Ti, Fi a Cyw yw croesawu cynulleidfa newydd i wylio S4C gyda’u plant. Cynulleidfa fydd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn rhannu sylwadau, profiadau ac ambell o joc am fagu plant ar aelwyd ddwyieithog," ychwanega Sioned Wyn Roberts.
Dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, "Dwi'n croesawu'r cynllun newydd yma gan S4C i helpu rhieni ddysgu Cymraeg gyda'u plant trwy raglenni poblogaidd Cyw.
"Un o amcanion ein strategaeth iaith yw annog a chefnogi defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd. Bydd y datblygiad hwn, ynghyd a'r cwrs Cymraeg i'r Teulu a lansiais yn ddiweddar, yn cyfrannu at wireddu'r amcan hwn."