Teledu

RSS Icon
13 Gorffennaf 2012

Busnesau lleol yn cefnogi cyfres newydd Fferm ffactor

Mae pedwar busnes o Gymru sy’n darparu peiriannau Honda wedi cyfuno i gefnogi cyfres ddiweddaraf Fferm Ffactor ar S4C. Mae’r busnesau wedi cyflwyno beic ATV fel gwobr ar gyfer y dasg agoriadol, sy’n cael ei chynnal yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Yn y gyfres deledu, bydd deg cystadleuydd newydd o bob cwr o Gymru yn wynebu sialensiau wythnosol sy’n amrywio o gneifio defaid, marchnata a barnu da byw.

Bydd y dasg gyntaf yn cael ei chynnal yn Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Mawrth 24 Gorffennaf wrth i dri chystadleuydd frwydro am y beic Honda o flaen cynulleidfa fyw.

Ond cyn hynny, bydd yn rhaid i’r deg i fynychu diwrnod hyfforddiant ATV dan ofal Cyswllt Ffermio Cymru. Ar ddiwedd yr hyfforddi, bydd y deg yn ymgymryd â her gyrru arbennig. Bydd y tri sy’n cwblhau’r dasg yn yr amser orau, ond sydd hefyd yn gyrru’n gyfrifol a gofalus, yn cael arddangos eu doniau gyrru ar faes y Sioe yn Llanelwedd.

“Mae’r cerbyd ATV yn beiriant hanfodol ar gyfer unrhyw fferm,” eglura Phil Webb, un o benaethiaid Honda UK. “Bydd sialens agoriadol Fferm Ffactor yn profi sgiliau gyrru’r cystadleuwyr gan bwysleisio mai drwy yrru yn ofalus ac yn gyfrifol yw’r ffordd o gael y gorau allan o’r ATV.

Mae busnesau lleol David Jones o’r Drenewydd, Daltons ATV (Llanbedr-Pont-Steffan), Ride on Mower & Co. (Pwllheli) a Smithfield Tractors (Llanelwedd) wedi dod at eu gilydd i gyflwyno’r beic modur ATV, sydd werth £7,800, i enillydd y dasg gyntaf.

Sean Grosvenor o gwmni David Jones yn y Drenewydd: “Mae gan Fferm Ffactor a’r Sioe Frenhinol ddilyniant mawr ymhlith amaethwyr a’r rheiny sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Rydym yn falch iawn o gynnig ein cefnogaeth i’r gyfres eleni ac yn benodol drwy ddarparu Honda ATV i’r her agoriadol yn Llanelwedd. Rwy’n gwyliwr brwd o gyfres Fferm Ffactor ar S4C ac mae nifer o’n cleientiaid hefyd yn gwylio’n gyson.”

John Dalton o gwmni Daltons ATVs yn Llanbed: “Rydym yn delio gyda chymuned amaethyddol a chefn gwlad bob dydd ac mae Fferm Ffactor yn hynod boblogaidd. Mae gennym ddiddordeb mawr i wneud mwy gyda’r gyfres yn y dyfodol hefyd. Mae’r ATV sy’n cael ei gynnig fel gwobr ymhlith y gorau gan Honda ac mae’n gwneud y gwaith caib a rhaw ar y fferm yn dipyn rhwyddach.”

Will Owen o gwmni Ride-on-Mower & Co ym Mhwllheli: “Mae’r Honda TRX420FA ATV yn ddibynadwy,   ac wedi’u cynllunio i hwyluso gwaith ffermwyr ar eu tir. Mae’r model yma yn un boblogaidd iawn yn y diwydiant amaethyddol ac rwy’n siŵr fydd enillydd y dasg yn y Sioe Frenhinol yn cael defnydd arbennig ohoni. Fel gwyliwr cyson o Fferm Ffactor ers y gyfres gyntaf ar S4C, dwi’n edrych ymlaen at weld sut hwyl gaiff y cystadleuwyr newydd ar y tasgau wythnosol. Pob lwc!”

Tim Hughes o gwmni Smithfield Tractors yn Llanelwedd: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyd-weithio gyda thîm Fferm Ffactor ar y gyfres newydd. Enillydd y dasg agoriadol, sy’n cael ei chynnal ar ein stepen drws yn y Sioe Frenhinol ar ddiwedd Gorffennaf, fydd yn cael allweddi beic modur TRX420FA ATV newydd sbon. Pob hwyl i bob un o’r ymgeiswyr yn yr her.”

Y beirniaid – yr Athro Wynne Jones a chyn-enillydd Fferm Ffactor Aled Rees – fydd yn cadw llygaid barcud ar y dasg a datblygiad y cystadleuwyr yn ystod y gyfres. Fesul un bydd y gwanaf yn cael eu gyrru adref gan adael yr enillydd. Bydd yr enillydd ar ddiwedd y gyfres yn hawlio teitl Ffarmwr y Flwyddyn S4C 2012 ac yn ennill cerbyd Isuzu D-Max Yukon 4x4.

Dywedodd Non Griffith o Cwmni Da, cynhyrchydd y gyfres i S4C, "Mae'r dasg agoriadol ar faes Y Sioe yn gyfle i wylwyr gwrdd â'r cystadleuwyr am y tro cyntaf, ac yn gyfle i rai ohonyn nhw ddangos eu sgiliau. Mae'n flas o'r hyn sydd i ddod yn y gyfres newydd."

Bydd y gyfres yn dychwelyd i S4C yn yr hydref.

 

Rhannu |