Teledu

RSS Icon
08 Mehefin 2012

Rowli’n dychwelyd i gyfres Jonathan

Bydd wyneb cyfarwydd yn dychwelyd i gyfres Jonathan ar S4C dros yr wythnosau nesaf – yr hyfforddwr rygbi Rowland Phillips.

Yn y rhaglenni, i’w ddarlledu ar 15 a 22 Mehefin, bydd Rowland yn ymuno â’r cyflwynwyr Jonathan Davies a Sarra Elgan yn absenoldeb y dyfarnwr Nigel Owens, sydd ar hyn o bryd yn dyfarnu yn Seland Newydd.

Bydd yna chwerthin di-ri, drygioni a lot fawr o dynnu coes wrth iddynt edrych ymlaen at brofion tîm rygbi Cymru yn Awstralia yng nghwmni gwesteion arbennig, yn ogystal â thrin a thrafod perfformiadau Cymru yn hemisffer y de hyd yn hyn.

“Mae penwythnos rygbi yn dechrau ar y nos Wener gyda rhaglen Jonathan yn cynnig tamaid bach o sbort i’r ffans. Rwy’n ffaelu aros i fynd nôl a chreu bach o stŵr!” meddai Rowland, sy’n gyn-hyfforddwr ar glwb rygbi Castell Nedd a rhanbarth Aironi yn Yr Eidal.

Ymhlith y gwesteion ar 15 Mehefin fydd Alex Jones, cyflwynydd The One Show, a chyn-faswr y Scarlets, Stephen Jones.

Hefyd yn y rhaglenni, cawn glywed hanes Rhian ‘Madam Rygbi’ Davies wrth iddi barhau gyda’i thaith i Awstralia yn dilyn y tîm cenedlaethol a byddwn yn clywed am anturiaethau diweddaraf Nigel Owens yn Seland Newydd.

 

Jonathan

Nos Wener, 15 & 22 Mehefin, 9.30pm; S4C

Isdeitlau Saesneg ar gael

Llun: Rowland Phillips

Rhannu |