Teledu

RSS Icon
18 Mai 2012

Sion a Siân yn ôl – ar ôl hoe fach

Mae sioe cyplau boblogaidd S4C, Sion a Siân yn dychwelyd ar ôl seibiant byr ar ddydd Sadwrn, Mai 19 (9.00pm) pan fydd pâr priod ifanc o Pontllanffraith yn mynd benben â chyn weinidog gyda'r Bedyddwyr, a'i wraig.

Bydd Siwan a Tom Rainsbury o Bontllanffraith yn cystadlu yn erbyn y Parchedig Dafydd Henri Edwards a'i wraig Enid o Gaerdydd yn y sioe hwyliog.

Mae'r sioe - a gyflwynir gan Stifyn Parri a Heledd Cynwal - wedi bod yn boblogaidd ers dychwelyd i’r sgrin fach ychydig wythnosau yn ôl.

Mae Siwan a Tom wedi bod yn briod ers pedair blynedd ac mae ganddynt fab dwy flwydd oed, Steffan. Mae Tom, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Teifi, a Siwan, sy’n wreiddiol o Bontypridd, ill dau’n athrawon ysgol gynradd.

Efallai mai corff cyhyrog Tom a ddenodd Siwan yn y lle cyntaf – gan ei fod wedi bod yn bencampwr Mr Bodybuilding Cymru ddwywaith ac yn cystadlu am deitl arall eleni.

Yn gyn focsiwr amatur, mae'n rhaid iddo ddilyn amserlen lem wrth ymarfer corff bob wythnos.

Mae Siwan yn dweud nad yw Tom bob amser yn rhwydd gan ei fod yn ymarfer byth a hefyd mewn cystadlaethau bodybuilding. Mae Tom hyd yn oed yn cysgu gyda'i draed yn yr awyr - yn ystod y diwrnodau olaf hynny cyn cystadlu!

Serch hynny, mae Siwan yn dweud mai cyfrinach eu hapusrwydd yw eu bod yn gallu mwynhau bywydau annibynnol tra hefyd yn cael y manteision o fyw gyda'i gilydd. A fydd hynny yn eu helpu yn y gystadleuaeth hon?

Maen nhw’n cystadlu yn erbyn pâr sy'n adnabod ei gilydd yn dda iawn – maen nhw wedi bod yn briod ers 1964!

Mae’r cyn weinidog gyda'r Bedyddwyr, Dafydd a'i wraig Enid wedi cystadlu mewn cyfres flaenorol o Sion a Siân – gan ennill y jacpot (o £ 750) yn 1985.

Fe wnaethon nhw gwrdd pan oedd Dafydd yn weinidog ar Gapel Ramoth, Abercych ac Enid yn organyddes y capel.

Mae’r ddau yn hoff iawn o deithio – mae Dafydd wedi ymweld ag Israel bron i 20 gwaith, ac ar ei ymddeoliad aeth y pâr i fyw yn Nhrelew, Patagonia am chwe mis.

Maent bellach yn mwynhau mordeithiau cruise ar themâu cerddorol gan fod y ddau wrth eu bodd â cherddoriaeth a hithau Enid yn soprano fedrus.

Y gyfrinach tu ôl i’w hapusrwydd, meddai nhw, yw eu bod yn debyg mewn sawl ffordd, ond hefyd â diddordebau eu hunain.

A fydd hyn o gymorth iddynt yn y gystadleuaeth? Amser a ddengys.

Sion a Siân, S4C 9.00pm, Nos Sadwrn, 19 Mai

 

Rhannu |