Teledu

RSS Icon
04 Mawrth 2011

Rolf yn Oriel y Parc

FE fydd rhaglen sy’n dilyn Rolf Harris wrth iddo beintio yn arddull arlunydd o’r 20fed ganrif, Graham Sutherland, yn cael ei sgrinio nos Fercher,  Mawrth 9.

Dyma’r olaf yng nghyfres deledu BBC Cymru Rolf on Welsh Art ac fe fydd ar BBC 1 Cymru am 7.30yh.

Ysbrydolwyd Graham Sutherland gan dirwedd Sir Benfro ac mae yna arddangosfa barhaol o’i waith yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi.

Fe fu Rolf Harris ar ymweliad ag Oriel y Parc, sy’n cael ei rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, y llynedd, i astudio arddull Sutherland. Fe fu hefyd yn ymweld â thirwedd y Parc Cenedlaethol a fu’n ysbrydoliaeth i’r arlunydd.

Mae pedwar o’r paentiadau gan yr arlunydd a’r diddanydd o Awstralia, a grëwyd ar gyfer cyfres y BBC yn arddull pedwar o arlunwyr Cymru – Syr Kyffin Williams, Josef Herman, Shani Rhys James a Graham Sutherland – yn cael eu harddangos yn Oriel y Parc hyd nes mis Awst.

Mae mynediad i’r oriel a’r ganolfan ymwelwyr yn rhad ac am ddim ac ar hyn o bryd mae ar agor bob dydd o 10yb tan 4.30yp (9.30yb tan 5yp o’r Pasg tan fis Hydref).

Rhannu |