Teledu

RSS Icon
03 Mai 2012

Chwilio am enillydd nesaf Fferm Ffactor

Mae’r ymgyrch i ddod o hyd i enillydd nesaf Fferm Ffactor yn dechrau yr wythnos hon wrth i’r tîm cynhyrchu apelio am gystadleuwyr i gymryd rhan yn y bedwaredd gyfres.

Bydd Fferm Ffactor yn dychwelyd i sgrîn S4C yn yr Hydref, a’r tro yma bydd yr enillydd yn gyrru i ffwrdd yn y fersiwn diweddaraf o’r cerbyn 4x4 sydd eto i gael ei lansio ym Mhrydain gan gwmni Isuzu. 

Bydd y cerbyn Isuzu D-Max Yukon yn cael ei lansio ym mis Mehefin, ond mae’r gwneuthurwyr eisoes wedi rhoi un o’r neilltu ar gyfer y gyfres boblogaidd.

Y ffarmwr llaeth, Malcolm Davies o Dinas ger Pwllheli ddaeth i’r brig y llynedd.

“Roedd cymeryd rhan yn y gyfres yn brofiad anhygoel ac yn lot o hwyl ac mi fyswn i yn annog unrhyw un i fynd amdani o gael y cyfle,’ meddai.

Bydd Aled Rees o Aberteifi a’r Athro Wynne Jones yn dychwelyd i’r rhaglen fel y prif feirniaid, ac mae’r ddau yn edrych ymlaen at y sialens.

“Be ‘da ni wedi ddarganfod yn y gorffennol ydi bod rhai o’r cystadleuwyr yn datblygu wrth i’r gyfres fynd yn ei blaen, a ‘da ni yn credu fod hynny yn rhywbeth y dylem ei wobrwyo,” meddai’r Athro Wynne.

 “Felly eleni byddwn yn edrych ar dasgau fydd yn rhoi’r cyfle i’r cystadleuwyr i ddysgu a datblygu, ac fe all agwedd bositif fod yr un mor werthfawr â phrofiad,” ychwanegodd.

Dylai’r cystadleuwyr fod yn ffermwyr llawn neu rhan amser a thros 18 oed i gystadlu am y teitl. Os hoffech gystadlu, neu enwebu ffrind neu berthynas, cysylltwch â thîm Fferm Ffactor yn Cwmni Da, Cae Llenor, Lôn Parc, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2HH, neu ffonio (01286) 685300, neu ewch i www.s4c.co.uk/ffermffactor. 

Y dyddiad cau i’r ymgeiswyr yw Mai 31, 2012

 

 

Rhannu |