Teledu
Taith Ryfeddol Dewi Rhys i ddarganfod ei deulu gwaed
FE fydd yr actor Dewi Rhys yn mynd ar daith emosiynol i gwrdd â’i deulu gwaed mewn rhaglen ddirdynnol yn y gyfres ddogfen O’r Galon ar S4C.
Yn y rhaglen O’r Galon: Taith Dewi nos Fercher, 16 Mai fe fydd yr actor, y digrifwr a’r awdur lliwgar o Gaernarfon yn gwneud darganfyddiadau rhyfeddol am ei deulu gwaed.
Fe gafodd yr actor 52 oed ei fabwysiadu’n fabi bach gan Dafydd a Laura Jones a chael magwraeth hapus yn nhre’ Caernarfon. Bu farw rhieni’r actor, sydd yn chwarae cymeriad Wyn yn y gyfres ddrama Rownd a Rownd, pan oedd ond yn 19 oed.
Roedd Dewi Rhys Humphreys Jones – â rhoi ei enw llawn – yn gwybod ers oedd yn naw oed ei fod wedi cael ei fabwysiadu.
Roedd e wedi ceisio darganfod mwy am ei deulu gwaed pan oedd yn ddyn ifanc ond gafodd fawr o lwc. Y llynedd aeth ati o ddifri’, gan ddefnyddio asiantaethau arbenigol i’w helpu.
Bu camerâu Cwmni Da yn dilyn Dewi Rhys wrth iddo ddarganfod nid yn unig bod ei fam June yn byw yn Garstang, Sir Gaerhirfryn, ond bod ganddo frawd gwaed cyfan, Gary. Mae hefyd wedi darganfod bod ei dad gwaed yn dal yn fyw a bod ganddo hanner chwaer a dau hanner brawd.
Yn y rhaglen cawn gwrdd â’i fam a’i frawd a chlywn am y torcalon a gafodd y fam ifanc o Lytham St Annes, Blackpool wrth iddi benderfynu ym 1959 na allai ymdopi â magu ei mab bach, Kenneth Gregory Thomas.
“Pan wnes i gyfarfod hi fe ddaeth llu o emosiynau droston ni a bron iddo gyd ferwi drosodd, ond roedd gweld pen moel fy mrawd Gary y tu ôl iddi hi yn ceisio syllu i bob man ond tuag atom ni, yn antidote perffaith. Mi deimlais ryw gysylltiad yn digwydd yn syth, roedd rhaid imi geisio rheoli’r teimladau ychydig ond o fewn 24 awr roeddwn yn teimlo eu bod nhw ar fy ochr i.”
Roedd yr actor bob amser wedi meddwl tybed o le y daeth y reddf i berfformio. Syndod oedd darganfod bod cymaint o’i deulu gwaed yn gweithio yn y maes actio, ffilmiau, dawnsio a siarad cyhoeddus. Roedd ei daid a’i fodryb Stella yn actorion ac mae ganddo gefnder sydd yn ddyn stynt adnabyddus ar gyfresi amlwg fel ‘Dr Who.’
Roedd yn bwysig bod Dewi yn cael cefnogaeth ei deulu yn ardal Caernarfon a chawn weld ymateb ei gyfnither, yr awdur Annes Glynn, i’r newydd mawr.
“Dwi wedi sylweddoli pa mor lwcus wy wedi bod i gael magwraeth mor hapus, ond rwy’n teimlo’n fwy cyflawn fyth rŵan - mae yn gylch arall wedi agor. Ac mae’r daith yn parhau gan fy mod yn gobeithio cyfarfod ‘nhad a’i deulu hefyd” meddai Dewi, sydd wedi cyhoeddi llyfr ar hiwmor y Cofi.
“Roeddwn i ishe gwneud y rhaglen hon i ddangos ei bod hi’n bosibl i bobl sydd wedi cael eu mabwysiadu fynd ati i gysylltu â’u teuluoedd gwaed. Mae asiantaethau ar gael rŵan i wneud y cyfan yn haws.”
O’r Galon: Taith Dewi
Nos Fercher 16 Mai 9.00pm, S4C
Isdeitlau Cymraeg a Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk
Ar alw: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C