Teledu

RSS Icon
03 Mai 2012

O Nefyn i Nairobi

Mae rhaglen ddogfen newydd i S4C yn dilyn cyfnewidfa ddiwyllianol unigryw rhwng dwy wlad wahanol iawn - o slymiau Nairobi, Kenya, i Nefyn Pen Llŷn – wrth i griw o blant gyfrannu i gydweithrediad greadigol sy’n debygol o newid eu bywydau am byth.

Mae’r rhaglen ddogfen yn dilyn y cynllun cyntaf rhwng ysgolion gefeilliedig Ysgol Gynradd Nefyn ym Mhen Llŷn ac Academi Spurgeons Nairobi, cyn gorffen â pherfformiad unigryw yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2012.

Cyfosodir hafan wledig Nefyn - pentre ag iddi gyfleusterau cyfoes a phoblogaeth o 2,5000 o drigolion - gyda Kibera - ail slym ddinesig fwyaf Affrica, lle mae hyd at filiwn o bobol yn byw mewn tlodi eithafol, heb wasnaethau sylfaenol fe cyflenwad trydan a dŵr o’r tap.

Serch eu cefndiroedd gwahanol, mae’r ddwy ysgol wedi ffurfio perthynas glos sydd wedi ehangu gorwelion y disgyblion y tu hwnt i’w bywydau bob dydd. Trefnwyd y gefeillio rhwng y ddwy ysgol ar ddechrau 2011 gan  un o drigolion lleol Nefyn, Joy Brown, ac ers hynny mae’r plant wedi bod yn llythyrru’n gyson at ei gilydd. Bellach, mae Ysgol Nefyn yn noddi pum plentyn amddifad yn Nairobi ar hyd eu gyrfa ysgol gynradd o flwyddyn chwech  ymlaen.

Mae Joy Brown- sydd hefyd yn athrawes gelf frwdfrydig - wedi gweithio’n ddi-flino i wireddu’r gyfnewidfa hon. Bydd Joy yn chwarae rhan negeseuwraig wrth gludo llythyrau a rhoddion o Nefyn i Nairobi, gan brofi amodau slymiau Kenya a chartrefi’r trigolion drosti hi ei hun, cyn dychwelyd i Gymru yng nghwmni pedwar disgybl a tri athro o’r Academi yn Affrica.

Dywedodd Joy:  “Dwi’n gw’bod fod hon yn mynd i fod yn siwrne emosiynol iawn. Hyd yn hyn, ma’ pob dim dwi ‘di ddysgu am y plant yn Nairobi wedi bod trwy gyfrwng lluniau a straeon pobol eraill.

"Rwan dwi’n mynd i brofi’r cyfan drosta i fy hun. Mae Anno’s Africa di gweithio’n galed i greu cyfleoedd i’r plant trwy’r cynllun celf. Ma nhw’n gweithio efo 4 o ysgolion elusen yn Nairobi sy’n cefnogi 600 o blant,  efo tua 200 ohonyn nhw o Academi Spurgeons.

"Mae plant Ysgol Gynradd Nefyn ’di bod yn wych. Mae eu hymwybyddiaeth a’u hawydd i fod o gymorth i blant llai ffodus na nhw wedi bod yn anhygoel. A  rwan ma nhw’n mynd i gwrdd â’i gilydd.”

 Bydd y plant o Kenya yn treulio pythefnos yn byw gyda’u ffrindiau gohebu o Gymru, yn mynychu’r ysgol a mwynhau teithiau maes, gan brofi gwahaniaethau mawrion ac elfennau annisgwyl o gyffredin yn eu bywydau bob dydd. Fe wnân nhw hefyd berfformio’r gân “Mama” a gyfansoddwyd yn yr iaith Swahili gan y disgyblion eu hunain cyn ei chyfieithu i’r Gymraeg. Caiff ei llwyfanu o flaen cynulleidfa yn yr Eisteddfod ar ddydd Mercher Mehefin 6ed a Charnifal Nefyn hefyd.

 Mae’r cynllun unigryw hwn wedi dod â’r plant, eu teuluoedd a chymuned gyfan Nefyn ynghyd. Yn eu brwdfrydedd i gefnogi rhai o drigolion tlotaf y byd,  mae gobeithion y trigolion yn mynd tu hwnt i godi arian yn unig, er mwyn  creu etifeddiaeth fyw i wella bywydau’r plant a’u teuluoedd yn Kibera, a hynny am byth.

 Dywedodd cynhyrchydd y rhaglen Catryn Ramasut: “Roedd hi’n anrhydedd i gael derbyn gwahoddiad i ddilyn cyfnewidfa gynta Anno’s Africa. Y gobaith yw y bydd y cyfle hwn yn galluogi i blant y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol ddeall cryn dipyn mwy am eu diwyllianau gwahanol, a chynnig cipolwg amhrisiadwy ar fywydau ei gilydd.”

‘O Nefyn i Nairobi’ yn darlledu ar ddydd Iau Mai 31ain a Mehefin 14eg, 9pm. Mae O Nefyn i Nairobi yn gynhyrchiad ie ie ar gyfer S4C. Y Cynhyrchydd yw Catryn Ramasut a’r Cyfarwyddwr yw Harry Holm. Bee Gilbert yw Cyfarwyddwr Anno’s Africa.

 

Rhannu |