Teledu
Newid Byd yn ôl am ail gyfres!
Anifeiliaid gwyllt yn prinhau, dinistrio fforestydd glaw, tlodi, newyn, llifogydd neu sychder – mae’r newyddion yn llawn o straeon am ryfeddodau a thrychinebau’r byd. Mae llawer o blant yn poeni am y sefyllfa ac yn teimlo nad oes ganddyn nhw’r pwêr i newid pethau neu i helpu.. Wel, dyma eu cyfle i wneud gwahaniaeth mewn rhan fach o’r byd.
Mi fydd y gyfres Newid Byd yn cynnig y cyfle i 4 person ifanc rhwng 17-18 oed ymweld â gwlad tramor am dair wythnos i gyflawni gwaith gwirfoddol pwysig.
Y Prosiectau:
Bydd y criw yn gweithio ar 4 prosiect tra’n y wlad. Fe fydd y prosiectau penodol yn helpu’r bobl a/neu’r byd natur yn y rhan honno o’r byd, ac fe fydd yn cynnig her bythgofiadwy. Llynedd, fe aeth un criw i Malawi i helpu adeiladu ysgol uwchradd i ferched a gweithio mewn canolfan bywyd gwyllt. Fe aeth criw arall i Gambodia i helpu mewn cartref i blant amddifad ac i weithio ar brosiect eco-dwristiaeth mewn coedwig law.
Beth bynnag fo’r prosiect y tro hwn, mae’n sicr o fod yn un i’w gofio ac mi fydd y teimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth gwerthchweil ar ddiwedd y daith yn anhygoel.
Rydym yn chwilio am …
Bydd y 4 yn bobl ifanc hyderus sy'n gallu mynegu eu teimladau a'u hargraffiadau. Byddan nhw yn gallu cydweithio'n dda ag eraill, yn gallu cael hwyl a chwerthin ar un llaw ond yn ddigon aeddfed i sylweddoli sensitifrwydd rhai sefyllfaoedd ac ymateb yn synhwyrol. Bydd 2 berson arall yn cael eu dewis i fod ar y rhestr wrth-gefn.
Mae'n bosib y bydd yr unigolion eisoes yn gwirfoddoli, yn codi arian, er enghraifft, i elusen neu'n cyfrannu mewn rhyw ffordd at eu cymuned leol neu yn eu hysgolion. Fe fyddan nhw'n sylweddoli pwysigrwydd y prosiect a'r rhan y byddant yn eu chwarae wrth helpu'r ardal neu'r anifeiliaid dan sylw. Fe fyddant yn ysbrydoli eraill, drwy’r hyn maen nhw’n ei ddweud neu’n ei wneud, i ddilyn eu hesiampl a mynd ati i helpu eraill yn eu cymunedau eu hunain.
Y Broses
Bydd yr holl fanylion, rheolau a ffurflen gais Newid Byd ar gael ar wefan Newid Byd www.s4c.co.uk/newidbyd o Fai y 1af ymlaen. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais gan roi rhesymau pam mai nhw fyddai’n addas i gael y profiad hwn a chadarnhau eu bod ar gael ar y dyddiadau penodol – Awst y 18fed – 9fed o fedi, 2012.
Fe fyddwn yn darllen yr holl geisiadau ac fel y llynedd, yn gwahodd y rhai mwyaf addas i ddiwrnod arbennig lle bydd tasgau hwyliog amrywiol yn eu hwynebu a chyfweliadau hefyd ar gamera er mwyn gweld pa mor naturiol a hyderus mae’r unigolion wrth siarad am eu teimladau a’u profiadau.
Bydd modd cael gafael ar y manylion hefyd drwy ebostio newidbyd@telesgop.co.uk neu ffonio 01792 824567 yn gofyn am becyn.
Fe fydd angen dychwelyd y ffurflen gais atom cyn y 14eg o Fai, 2012.