Teledu

RSS Icon
26 Ebrill 2012

Merch mewn galar yn chwilio am fywyd ysbrydol

Bydd rhaglen ddogfen bwerus yn y gyfres O’r Galon ar S4C yn dilyn merch yn ei harddegau ar gwest ysbrydol ar ôl iddi golli ei thad yn sydyn – cwest lle mae’n gofyn y cwestiwn mwyaf oll, beth sy’n digwydd inni pan rydyn ni’n marw?

Mae'r rhaglen O'r Galon: Ble Wyt Ti Nawr?, ar nos Fercher 9 Mai, yn portreadu Martha O’Neil, 14 oed, o Rydaman wrth iddi godi cwestiynau mawr am fywyd a marwolaeth a dysgu beth mae gwahanol grefyddau’r byd yn ei gredu.

Tair blynedd a hanner yn ôl, bu farw’r hyrwyddwr cerddoriaeth ac adloniant uchel ei barch Joe O’Neil yn anamserol o ifanc tra mewn stiwdio recordio yn Llundain gyda chôr Only Men Aloud. Doedd e ond yn 54 mlwydd oed.

Roedd y newyddion yn siglad i lawer o ffrindiau ac edmygwyr Joe O’Neil, dyn a oedd wedi bod yn allweddol yn natblygiad gyrfaoedd lu o artistiaid perfformio Cymru, gan gynnwys Katherine Jenkins, Bryn Terfel, Aled Jones ac Elin Manahan Thomas.

I’w deulu, ei wraig Siân, ei ferch Martha a’i fab Finn, sydd bellach yn naw mlwydd oed, roedd ei farwolaeth yn golled ofnadwy. I Martha, fe wnaeth y drasiedi godi cwestiynau sylfaenol am ystyr bywyd.

“Wy wastad wedi bod yn rhywun sydd moyn atebion i gwestiynau ers o’n i’n fach ac roedd dadi wastad wedi helpu fi ffeindio atebion,” eglura Martha, sy’n ddisgybl Blwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Maes Yr Yrfa.

“Ar ôl i dadi farw, fe ddaeth un o’r cwestiynau pwysica’ i gyd i fy meddwl - sef beth sy’n digwydd i ysbryd rhywun ar ôl inni farw? Roedden i ishe siarad â gwahanol bobl o wahanol grefyddau i glywed beth maen nhw’n ei gredu ac yn y diwedd dod i benderfyniad fy hun.”

Cafodd Joe O’Neil ei fagu yn y ffydd Gatholig yng Nghaerfaddon, ond roedd ei gred bersonol yn cynnwys credoau traddodiadol ac esoterig a phwyslais ar fyfyrdod.

Bu camerâu cwmni cynhyrchu Colour Television yn dilyn taith ysbrydol Martha sy’n dechrau yn ei chapel ei hun yn Rhydaman lle mae’n trafod credoau Cristnogol am fywyd tragwyddol gyda’r gweinidog, y Parch John Talfryn Jones.

Mae ei thaith yna’n mynd â hi i'r deml Hindŵaidd Govindas yn Abertawe lle mae'n cyfarfod dilynwr Hare Krishna, Steve Phillips. Mae Martha yn darganfod bod Steve wedi colli ei dad yn ifanc hefyd ac i hynny ddechrau ei gwest am oleuni ysbrydol.

Yn y fynwent aml-ffydd yn Nhrelái, Caerdydd, mae'n cwrdd â’r Mwslimiaid ifanc Nadia a Sara Yassine i drafod credoau Islam am fywyd tragwyddol. Yna, mae’r dilynwr Bwdhaeth Paul Mason yn cynnal sesiwn fyfyrio gyda Martha yng Nghanolfan Bwdhaeth Caerdydd – profiad emosiynol dwfn iddi gan iddi deimlo iddi ddod mewn cysytlltiad ag ysbryd ei thad.

Mae’r cyfryngwr ysbrydegol Tony Leeson yn esbonio sut mae dilynwyr ei ffydd yn credu eu bod yn cyfathrebu gyda’r meirw. Pan oedd yn ddyn ifanc roedd Joe yn mynychu canolfan Ysbrydegol ac mae Martha a’i mam Siân yn ymweld ag eglwys ysbrydegol hynaf Caerdydd.

Yn olaf, mae'n cyfarfod cyfarwyddwr cerdd Only Men Aloud, Timothy Rhys-Evans, a oedd gyda'i thad pan fu farw. Mae bywyd wedi troi cylch cyfan ers y diwrnod du hwnnw ym mis Hydref 2008 gan fod Martha a Finn bellach yn aelodau o gôr plant Tim, Only Kids Aloud.

Mae Martha yn asesu pob un o’r credoau yn eu tro, ond yr hyn sy'n sicr yw y bydd dylanwad ei thad yn aros gyda Martha am byth. 

Meddai Martha: “Mae’r ffaith nad ydych yn gweld rhywbeth ddim yn golygu nag yw e yno. Chi’n ffaelu gweld cariad ond chi’n gallu teimlo fe, ac wy’n dal yn teimlo dadi o gwmpas.”

O'r Galon: Ble Wyt Ti Nawr?

Nos Fercher 9 Mai 9.00pm, S4C

Hefyd, Nos Sul 13 Mai 10.50pm, S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Colour Television ar gyfer S4C

 

Rhannu |