Teledu

RSS Icon
04 Mawrth 2011

Newid byd i ferch ysgol

MAE agwedd Lois (Mirain Jones) tuag at ei delwedd a’i phwysau wedi bod yn achos pryder i’w mam, Gaynor (Sharon Roberts), yn ddiweddar. Ac mae’r ddwy wedi cael sioc enfawr ar ôl darganfod bod Lois yn feichiog yr wythnos diwethaf.

Mynnodd Gaynor fod Lois yn gwneud prawf beichiogrwydd wrth i’r stori ddatblygu ym mhenodau Pobol y Cwm ac roedd ei ganlyniad yn bositif.

Yn ogystal â bod yn sioc i Lois, mae’r holl beth wedi bod yn gwbl annisgwyl i’w mam Gaynor, sydd dal i ddioddef yn emosiynol ar ôl cael erthyliad ei hun cyn y Nadolig.

“Mi aeth Gaynor trwy’r holl brofiad ar ei phen ei hun, heb ddweud wrth Hywel hyd yn oed,” esbonia Sharon Roberts, sy’n chwarae rhan Gaynor. “Cyhudda rhai hi o fod yn hunanol a rhoi ei hunan-barch o flaen lles ei merch ond dydw i ddim yn meddwl fod hwnna yn wir. Mae popeth mae Gaynor yn ei wneud o ran ei merched yn deillio o’r cariad sydd ganddi tuag atynt. Mae’n rheoli’r sefyllfa achos ei bod hi’n berson gweithgar ac wedi arfer gorfod gwneud yr holl benderfyniadau dros y merched yn absenoldeb Colin. Dydy hi ddim am i Lois orfod wynebu’r sefyllfa ar ei phen ei hun fel y bu’n rhaid iddi wneud ei hunan.”

Meddai Mirain Jones, sy’n chwarae Lois: “ Dwi ’n meddwl am fod dillad Lois ddim yn ffitio rhagor, mae’r ffaith ei bod wedi rhoi pwysau ymlaen wedi bod ar ei meddwl. Tydi hi erioed wedi cael y broblem yma o’r blaen ac mae hi’n teimlo’n anghyffyrddus iawn gyda’i chorff. Mae hi wedi bod yn gwneud ymarfer corff fel ‘sit-ups’ yn y tŷ i geisio colli’r pwysau ac oherwydd dyw hi ddim yn gwybod yn iawn be’ i wneud, mae hi wedi bod yn osgoi bwyta.”

Yn ystod y misoedd sydd i ddod, bydd gan Lois benderfyniadau mawr i’w gwneud am ei dyfodol a bydd cefnogaeth ei mam yn hanfodol. Ond a fydd hi’n penderfynu cadw’r babi ai peidio?

Meddai Mirain: “Dyw Lois ddim yn gwybod yn iawn ar y funud beth sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol achos ei bod hi mor ifanc a diniwed. Mae Gaynor yn trio llywio’r sefyllfa er mwyn edrych ar ôl Lois, ac felly does gan Lois ddim rheolaeth o gwbl. Ond, fel y cawn weld yn yr wythnosau sydd i ddod, mae Lois yn gymeriad cryf sydd yn gallu gwneud penderfyniadau dros ei hun.”


POBOL Y CWM –

Dydd Llun-Dydd Gwener, Mawrth 7- 11, BBC Cymru ar S4C, 8pm.

Monday-Friday, March 7-11, BBC Wales on S4C, 8pm.

bbc.co.uk/pobolycwm

Rhannu |