Teledu

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Aled Jones ar drywydd y cyfansoddwyr

Mae’r canwr a’r cyflwynydd byd-enwog Aled Jones am arwain gwylwyr S4C ar daith gerddorol fythgofiadwy o amgylch Ewrop mewn cyfres am hanes cerddoriaeth glasurol sy’n dechrau nos Sul, 22 Ebrill.

Mae’r canwr a’r darlledwr a fagwyd yn Ynys Môn yn darganfod mwy am rai o gyfansoddwyr clasurol mwya’r byd a’r lleoliadau sy’n eu hysbrydoli, yn y gyfres Aled Jones: Fy Nhaith Glasurol.

Mae’r daith yn mynd â’r tenor angerddol 41 oed dros fil o gilometrau, ar hyd tair afon bwysig, ar draws pum gwlad, o dan fil o bontydd a thrwy ddau fileniwm o’n hanes.

Yn y rhaglen, a ffilmiwyd gan gwmni Destinations Film o Awstralia a’i chynhyrchu’n Gymraeg ar y cyd â chwmni teledu o ogledd Cymru, Meditel, yn dilyn Aled o brifddinas Hwngari, Budapest, i Amsterdam yn yr Iseldiroedd.

Wrth ddilyn afonydd y Donwy (Danube), Main a’r Rhein (Rhine), mae Aled yn darganfod mwy am amrywiaeth o gyfansoddwyr Ewropeaidd, o gewri clasurol fel Mozart, Beethoven a Schubert, i fawrion mwy modern fel Bruckner, Kodaly a Wagner.

Ar hyd ei daith mae’n ymweld ag amryw o ddinasoedd a threfi megis Vienna, Melk, Linz, Salzburg, Nuremburg, Bayreuth, Bamberg, Bonn a Cologne.

I Aled Jones, a ddaeth i’r amlwg yn gyntaf fel y soprano trebl ifanc yng nghanol yr 80au, roedd y ffilmio yn daith bersonol bwysig yn ogystal â thaith gerddorol trwy hanes.

"Mae’n brofiad fe wna i drysori am byth, gan imi fynd i leoedd sydd wedi cynhyrchu cerddoriaeth a gafodd ddylanwad mawr ar fy mywyd a gyrfa," meddai Aled, sy’n byw yn Llundain gyda’i wraig a’i deulu.

"Rydych chi’n dysgu llawer am gyfansoddwyr drwy ymweld â’r mannau lle roeddent yn byw, gweithio ac yn cyfansoddi. Roeddwn yn teimlo’n freintiedig cael bod yn y stafell lle gwnaeth Schubert gyfansoddi Ave Maria, cân sy’n golygu cymaint i mi."

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill oedd gweld côr byd-enwog Bechgyn Vienna yn perfformio, côr y mae Aled wedi perfformio gyda hwy yn y gorffennol.

Un o arwyr mwyaf Aled yw Wolfgang Amadeus Mozart, a bu ymweld â man geni'r cyfansoddwr o Awstria yn Salzburg a’i fedd yn Vienna, yn brofiad hynod emosiynol iddo.

Ond wrth ymweld â Nuremburg ym Mafaria ar gwest y cyfansoddwr enfawr ond dadleuol Richard Wagner, teimlodd emosiynau gwahanol iawn.

Esbonia Aled Jones, sydd wedi rhyddhau 24 albwm yn ei yrfa lwyddiannus, "Dim ond rhan o Faes Rali Nuremburg gafodd ei chodi, ond mae’n dal yn ddigon brawychus i edrych arno. Mae’n arwydd o’r hyn allai fod wedi digwydd petai Hitler wedi llwyddo. Mi oeddwn i’n teimlo’n anghyfforddus iawn yno.

"Gallwn bron glywed y traed yn gorymdeithio, ond y peth arall y bu pobl yn clywed ar y ralïau oedd cerddoriaeth hoff gyfansoddwr Hitler, Richard Wager, un o gymeriadau mwyaf dadleuol y byd cerddoriaeth glasurol."

Yn y rhaglen gyntaf, bydd Aled yn dilyn Afon Donwy o Budapest i Vienna trwy Bratislava. Mae hanes dramatig Budapest yn datgelu gwaith dawnus Franz Liszt a’r rheiny ddaeth ar ei ôl - Zoltan Kodaly a Bela Bartok.

 

Aled Jones: Fy Nhaith Glasurol

Nos Sul 22 Ebrill 8:30pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Destinations Film ar gyfer S4C

Rhannu |