Teledu

RSS Icon
29 Mawrth 2012

Actores yn creu argraff yn syth fel dirprwy

Dyw’r actores Janet Aethwy ddim wedi bod yn actio ar deledu ers rhai blynyddoedd – ond mae hi wedi creu argraff fawr yn syth yn ei rôl newydd fel dirprwy brifathrawes yn ysgol ffuglennol Bro Taf.

Yr actores 52 oed sy’n chwarae rhan Siân Bowen-Harries yn y gyfres ddrama boblogaidd Gwaith Cartref a ddarlledir bob nos Sul ar S4C am 9.00pm.

Mae’r actores, sy’n byw yn Llandeilo, yn dychwelyd i actio ar deledu am y tro cyntaf ers pum mlynedd ac mae hi wrth ei bodd yn chwarae’r ddirprwy brifathrawes siarp ei thafod.

“Ers rhai blynyddoedd, rwyf wedi bod yn cyfarwyddo, cynhyrchu a sgriptio tu ôl i’r camerâu ar raglenni i blant ac oedolion, ac ar gynyrchiadau theatr,” meddai’r actores, sy’n wreiddiol o Borthaethwy, Ynys Môn ond yn byw yn ardal Llandeilo ers 21 mlynedd.

“Doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn am ddychwelyd yn ôl i’r sgrin deledu ar ôl pum mlynedd o seibiant, ond dwi’n falch dwi wedi gwneud rŵan,” meddai’r actores, a fu ddiwetha’ ar S4C yn y gyfres ddrama Cowbois ac Indians.

“Fe es i am ddau glyweliad yr un wythnos am rannau mewn cyfresi drama ac fe aeth y gyntaf mor wael fel bron imi beidio mynd i’r clyweliad am Gwaith Cartref. Ond diolch byth, fe benderfynais i fynd am y rhan a dwi wedi cael syrpreis o’r ochr orau.”

Dywed bod lot o waith dysgu llinellau achos bod gan Siân Bowen-Harries areithiau hir, ond ei bod yn mwynhau chwarae’r cymeriad “cryf, di-nonsens.”

“Mae Siân yn ymddangos yn gymeriad caled, ond mae’n gorfod bod fel na am na all fforddio gadael i bobl gerdded drosti. Fel y cawn weld, mae yna resymau am hynny ac, yn y bôn, mae hi’n reit deg a charedig.

“Mae job dirprwy yn un anodd, fel y gwelais pan es i ymchwilio i’r rôl mewn ysgolion, maen nhw’n gorfod torri newydd drwg ar ran y prifathro yn aml ac yn cael y lach gan yr athrawon a’r plant.”

Dywed Janet bod gweithio gyda chriw a chast hwyliog y gyfres yn “bleser” a’r gymysgedd rhwng y cast ifanc a henach yn “braf”.

Dywed bod cydweithio â Rhodri Evan sy’n chwarae’r prifathro hunan bwysig Rhydian Elis yn ddifyr achos bod cymaint o “oneupmanship” rhyngddynt. Mae’r hiwmor rhyngddi a’r athrawes Gwen Lloyd (Rhian Morgan, hefyd o Landeilo) yn un ddifyr hefyd.

“Mae’r ddirprwy yn gorfod bod yn orddifrifol ond mae hiwmor y gyfres yn dod i’r wyneb trwy’r amser. Mae bywyd yn gymysgedd o’r chwerw felys – o chwerthin a chrio.”

Rhannu |