Teledu
Torri chwys, torri esgyrn a thorri calon – croeso i fyd Cwffio Cawell
“Ma pobl yn dueddol o feddwl mai human cockfight ydi cwffio cawell, ond dydi o ddim o gwbl. Does dim gwaed na dannedd yn fflio rownd y lle fel ma’ pobl yn dueddol o feddwl. Yn y cawell mae yna ddau berson yn camu i mewn - ond un sy’n cael ennill,” eglura Chris Pritchard.
Rhedeg academi crefftau ymladd yng Nghaernarfon mae Chris Pritchard ac fe fydd yn un o sêr cyfres ddogfen newydd ar S4C, Cwffio Cawell (nos Iau 5 Ebrill).
Camwch i’r gawell gydag S4C i gael cipolwg ar y gamp - nid yn unig trwy lygaid yr ymladdwyr - ond hefyd drwy lygaid y cefnogwyr.
Cynorthwy-ydd dosbarth, model, pencampwr bocsio cic Prydain a gweinyddes mewn tŷ bwyta fydd ymhlith y rhai fydd yn ein tywys ar daith i fyd y gawell.
Cawn glywed eu straeon nhw, gweld yr ymroddiad a disgyblaeth sydd ganddynt a’u hannog nhw wrth iddynt baratoi i ymladd yn nigwyddiadau ymladd cawell mwyaf Cymru - ‘ Valley of Kings’ yn ne Cymru a ‘Brwydr yn y Bae’ yn y gogledd.
Mae cyffro ac adrenalin y gawell yn cynnig profiad gwahanol iawn i fywyd arferol. Myfyriwr yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor yw Peris Tecwyn ond ei uchelgais yw bod yn Bencampwr Bocsio Cic Cymru. Yn wreiddiol, bocsio oedd yn mynd â bryd Peris, y dyn 22 oed o Rosgadfan, ond wrth iddo chwilio am sialens newydd, magodd ddiddordeb mewn bocsio cic a dechreuodd hyfforddi yn academi Chris.
Ym mhennod gyntaf y gyfres ar 5 Ebrill (9.00pm), cawn ddilyn Peris yn ei gwest i gipio’r brif wobr yng nghystadleuaeth Brwydr yn y Bae. Ond tra bod Peris yn hyfforddi’n galed, mae ei fam yn poeni’n arw am les Peris.
“Dwi ddim yn hapus am y peth,” meddai Rhian Calwaladr. “Dwi ddim yn licio’r syniad o gwffio fel adloniant a dwi ddim yn deall pobl sydd eisiau mynd i wylio pobl eraill yn waldio'i gilydd.”
Mae Rhian yn gobeithio mai diddordeb dros dro yw ymladd mewn cawell i Peris ac y bydd ei mab yn y pen draw yn rhoi’r menyg paffio heibio.
“Dwi’n poeni amdano fo ac yn ofni y caiff o ei frifo neu y gwnaiff o frifo rhywun arall. Dwi wir yn gobeithio mai ffad ydi hyn a gwnaiff hyn ddim para. Swn i’n licio gweld o’n rhoi’r un ymroddiad i rywbeth mwy cadarnhaol a llai treisgar.”
Ond mae Peris yn benderfynol o barhau gyda’i ddiddordeb, er gwaethaf pryderon ei fam.
“Dwi ‘di licio bocsio ers o’n i’n hogyn ifanc. O’n i’n ‘neud lot o ffitrwydd yn yr ysgol - rhedeg a ballu - a dwi ‘di cystadlu erioed. Dwi bob amser eisiau gwneud fy ngorau glas yn enwedig yn y gawell, gan ei fod yn gwbl wahanol i team sports. Mae hyn i gyd ar fy ysgwyddau i. Mae’n rhaid imi berfformio ar fy ngorau bob tro neu fyddai’n colli,” meddai Peris.
“Dydy mam ddim yn hapus o gwbl fy mod yn cwffio mewn cawell. Mae hi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydda i’n stopio, ond dydy hynny ddim am ddigwydd."
Cwffio Cawell
Nos Iau 5 Ebrill 9.00pm, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C