Radio

RSS Icon
04 Mawrth 2011

Brwydr y bandiau

CYN diwedd y mis bydd talent newydd Cymru yn wynebu pleidlais hynod o bwysig wrth i amryw o fandiau ifanc frwydro yn erbyn ei gilydd yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru/C2 Radio Cymru 2011.

Mae’r ymgyrch flynyddol a gynhelir ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru a Radio Cymru eisoes wedi dechrau wrth i’r bandiau ac artistiaid gystadlu yn y rowndiau rhanbarthol. Ar gyfer y rowndiau cyn derfynol bydd enwau’r bandiau buddugol o’r rowndiau rhanbarthol yn cael eu tynnu allan o het. Pleidlais gwrandawyr Radio Cymru fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael cystadlu yn y rownd derfynol.

Bydd y rowndiau cyn derfynol a’r rownd derfynol yn cael eu darlledu’n fyw ar C2 Radio Cymru. Y rowndiau cyn derfynol ar Mawrth 29 - 31 a’r rownd derfynol nos Fercher, Mai 4.

Enillwyr y llynedd oedd Yr Angen o Abertawe. Dywedodd Dai Williams, drymiwr y band fod ennill y gystadleuaeth yn brofiad gwych. “Roedd cael sesiwn gyda Radio Cymru a chael sylw i’n caneuon ar y radio yn anhygoel,” meddai.

“Ar ôl inni ennill cawsom sawl gig ac roedd o’n hwyl cael bod yn rhan o festivals yr haf fel Cil y Cwm, Gŵyl Gardd Goll, Maes B - a byddwn yn chwarae y n Maes B eto eleni. Ar ôl y gystadleuaeth roedd pawb ar draws Cymru yn gwybod am fand bach o Abertawe, a bellach rydym yn bwriadu rhyddhau cryno ddisg.”

Mae’r wobr eleni yn well nag erioed gyda’r band buddugol yn derbyn cytundeb i recordio Sesiwn i C2 Radio Cymru; gwahoddiad i berfformio yng Ngŵyl Sŵn (Huw Stephens) 2011; perfformio ar lwyfan Pentre Ieuenctid y Sioe Frenhinol Llanelwedd a llu o gyfleoedd eraill.

Dywedodd Sian Gwynedd, Golygydd Radio Cymru: “Bob blwyddyn mae cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn gyfle i Radio Cymru roi sylw i’r bandiau ac artistiaid newydd gorau ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru. Mae hyn yn ei dro yn rhoi cyfle i’r bandiau yma gael sylw cynulleidfa ehangach - cynulleidfa genedlaethol - i’w cerddoriaeth. Mae cymaint o wefr i’w gael o glywed ymateb y band buddugol wrth iddyn nhw gael blas o’r cyfleoedd sydd ar gael i fandiau yng Nghymru. Mae’r gystadleuaeth yn agor cymaint o ddrysau i fandiau ifanc Cymru sydd yn dyheu i fod y Sibrydion, Yr Ods neu’r Elin Fflur nesaf.”

Llun: Yr Angen o Abertawe

Rhannu |