Radio

RSS Icon
10 Tachwedd 2011

Cyfres Radio i goffáu'r meirw o Irac ac Affganistan

Yn sgil ymchwil i ohebu rhyfel gan ddarlithydd o Brifysgol Bangor, mae cyfres ffeithiol yn cael ei darlledu ar BBC Radio Wales y mis yma.

Ymchwil i ohebu rhyfel gan ddarlithydd newyddiaduraeth, Dr Llion Iwan, oedd y man cychwyn i'r gyfres 'The Welsh Fallen.'

"Ynghanol yr ymchwil clywais am fam oedd yn ymweld gyda bedd ei mab yn ddyddiol, gydag ysgol feithrin gerllaw a ffordd brysur, ac y swn o'r ddau wrth i bobl fwrw mlaen gyda'u bywyd bob dydd yn cynddu ei galar. Credwn fod modd i dynnu sylw y gynulledifa tuag at y dioddef yma, ac i bortreadu'r milwyr hefyd. Yn rhy aml canolbwyntio ar eu marwolaethau yr ydym, nid eu bywydau."

Dr Owain Llwyd o Ysgol Gerdd y Brifysgol gyfansoddodd y gerddoriaeth ar ei chyfer, ac fe gafodd hyn ei berfformio gan Gerddorfa Symffoni Skopje yn Macedonia.

"Mae cael perfformiad cerddorfa fel hyn yn brin iawn yn y diwydaint, ond diolch i wybodaeth a chysylltiadau Owain fe gafwyd darn o gerddoriaeth arbennig," meddai Llion.

Cafodd y bennod gyntaf ei darlledu Tachwedd 6, ac mae'r nesaf ar Dachwedd 11 a 13, 10.30am.
Mae'n bosib gwrando ar y gyfres ar iplayer:

Llun: Llion Iwan

Rhannu |