Radio
Dylan yn mynd o dan groen
AR ddydd Llun, 3 Hydref, bydd y newyddiadurwr Dylan Iorwerth yn cyflwyno rhaglen newydd sbon ar BBC Radio Cymru, Dan yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth.
Bydd y rhaglen newydd wythnosol yn edrych ar newyddion a phenawdau’r dydd, o ongl wahanol a thrwy lygaid craff Dylan ei hun. Bydd hefyd yn cymryd golwg ar newyddion cyffrous nad yw wedi ei gwneud hi i’r penawdau dalen flaen – datblygiadau technolegol, meddygol neu wyddonol.
Ag yntau wedi gweithio fel newyddiadurwr i bapur lleol, gohebydd gwleidyddol yn San Steffan, wedi sefydlu cylchgrawn Golwg, gwasanaeth newyddion Golwg 360, comic WCW, papur dydd Sul Cymraeg ac yn golofnydd y Western Mail a sylwebydd cyson ar amrywiol raglenni, sut bydd Dylan Iorwerth yn delio â’r her hon o gael ei raglen fyw ei hun?
“Mae’n dipyn o her i gyflwyno rhaglen yn hen gornel Gwilym Owen,” meddai. “Mi fydda innau’n holi’r cwestiynau caled ond yn fy ffordd fy hun. Y nod ydi rhaglen sy’n mynd dan groen pethau, yn holi sut a pham am bob math o bynciau, o wleidyddiaeth i hanes a gwyddoniaeth a’r holl newidiadau anferth sy’n effeithio ar ein bywydau bob dydd. Bob tro, gobeithio, mi fydd gynnon ni sgwrs un-ac-un yn rhoi cyfle i holi un person yn ddwfn am brofiad, barn, neu bwnc – ond mi fydd yna hefyd drafodaethau ehangach ac ambell i dding-dong hen ffasiwn am destun llosg. A’r cwestiwn pwysica’ bob tro wrth benderfynu ar stori i’w chynnwys – ydi hyn yn ddiddorol?”
“Mae yna barch aruthrol i Dylan Iorwerth fel newyddiadurwr yma yng Nghymru ac ryden ni yn falch iawn o gynnig cyfres newydd fel hon i wrandawyr yr orsaf,” meddai Sian Gwynedd, Golygydd Radio Cymru. “Mae gan Dylan y ddawn i fynd o dan wyneb stori a rhoi ongl newydd, ddifyr ar benawdau’r dydd. Mae hefyd yn ddarlledwr ffraeth a chraff a rydyn ni’n ffyddiog y bydd yn ychwanegiad cyffrous i ddarlledu dechrau’r wythnos ar Radio Cymru.”
Dan yr Wyneb gyda Dylan Iorwerth, Dydd Llun, 3 Hydref, BBC Radio Cymru, 1.15yp
bbc.co.uk/radiocymru