Radio
Cyfres newydd i drafod pynciau llosg gwrandawyr Radio Cymru
Mae cyfres newydd ar wasanaeth C2 BBC Radio Cymru yn cynnig lle i bobol ifanc drafod pethau sy’n effeithio ar eu bywydau nhw yn onest a di-flewyn ar dafod.
Bydd @tebion, sy’n dechrau nos Fercher, Medi 21, 10pm, yn gyfres o wyth rhaglen fyw fydd yn taclo themâu amrywiol ac anodd yn aml, yn eu mysg delwedd, anabledd, rhywioldeb, bwlio ac alcohol a chyffuriau. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i bobol ifanc rannu profiadau ac ymateb yn uniongyrchol i’r pynciau a’r trafodaethau trwy decst, ffôn, e-bost a rhwydweithiau cymdeithasol. Nia Medi sy’n cyflwyno @tebion.
“Rydym yn croesawu’r gyfres yma sydd yn torri tir newydd i C2,” meddai Sian Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru.
“Bydd Nia Medi yn trafod rhai o’r materion sydd yn poeni bobol ifanc ar hyd a lled Cymru ac yn clywed nifer o storïau personol cryf iawn ganddyn nhw. Mi fydd yna gyngor ar gael a chyfle i ymateb yn fyw ar y rhaglen - ond mi fydd ‘na hefyd ddigonedd o gerddoriaeth a hwyl.”
Bydd arbenigwr hefyd yn cymryd rhan ymhob rhaglen er mwyn cynnig cyngor ynglŷn â phwnc penodol y rhaglen honno, gan ddechrau gyda delwedd, lle bydd Dr Dai Samuel yn siarad am ei brofiad o anorecsia a chynnig cyngor ar fyw a delio gyda’r cyflwr.
“Mae’r gyfres yma wedi bod yn agoriad llygad mawr i mi gan mod i wedi bod yn rhan o’r gwaith ymchwil hefyd,” meddai Nia Medi, sy’n byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth.
“Y gobaith ydi y bydd y rhaglen yn fath o ‘stafell ddiogel’ lle gall pobol ifanc deimlo’n rhydd i ddweud eu barn am yr hyn sy’n eu poeni nhw. Mae eu lleisiau nhw yn bwysicach nag erioed a dwi wedi dysgu gymaint yn eu cwmni yn barod a ‘dyw’r rhaglen heb hyd yn oed ddechrau eto! Mae’r rhaglen hon yn dangos cyfeiriad cyffrous newydd i C2 Radio Cymru a dwi’n hynod falch o fod yn rhan ohono.”
Llun: Nia Medi