Radio
Sioe radio'r cawr cryf Oli a Lois yn cyrraedd yr uchelfannau
Mae un o wynebau mwyaf cyfarwydd teledu yng Nghymru wedi derbyn her newydd – sef cyflwyno sioe frecwast newydd ar y radio.
Bydd Lois Cernyw, sy’n hanu o Langernyw, ger Abergele, yn cyd-gyflwyno’r rhaglen gydag Oli Kemp ar Heart FM.
Bydd rhaglen gyntaf Brecwast Heart gyda Lois ac Oli yn darlledu ddydd Llun Ebrill 24. Bydd y ddau yn dechrau deffro Gogledd a Chanolbarth Cymru bob diwrnod o’r wythnos, gan ddarlledu o stiwdios modern yn Wrecsam.
Mae Lois wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yng Nghaerdydd lle mae’n byw gyda’i chariad, cynhyrchydd rhaglenni chwaraeon, Ceri Jenkins, a’u ci Cadi.
Ond mae’n edrych ymlaen at gael cyfle i dreulio llawer mwy o amser yn ei phentref genedigol yn Llangernyw, lle mae hi a’i chwaer yn parhau i rannu eu cartref teuluol.
Dywedodd: “Rwy’n teimlo’n angerddol iawn am Langernyw. Mae cymuned wych yn y pentref, lle mae pawb yn helpu ei gilydd ac yn cefnogi pob digwyddiad lleol 100%.
“Cael fy magu yn y pentref hwn roddodd yr hyder i mi gyflwyno ar y teledu.
“Fel plant yn yr ysgol roedd pob un ohonom yn cael ein hannog i gystadlu yn yr eisteddfodau, popeth o ganu a dawnsio i actio, llefaru ac arwain. Dyna oedd y peth naturiol i ni ei wneud, felly daeth cyflwyno a bod y tu ôl i feicroffon yn ail natur i mi.”
Mae’n adnabyddus i wylwyr S4C am ei gwaith ar raglenni plant, yn cynnwys y rhaglenni poblogaidd Stwnsh a Tag, yn ogystal â darllediadau o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac, yn fwy diweddar, Lois yn Erbyn Anni, lle’r oedd hi a’i chyd-gyflwynydd, Anni Llyn, yn ymgymryd â chyfres o heriau mentrus.
Dywedodd ei bod yn diolch i'w diweddar fam, Gwenda Pringle, am ei sgiliau cyfathrebu naturiol.
Dywedodd: “Roedd Mam yn brifathrawes ym Mae Colwyn ac yn uchel iawn ei pharch. Rwyf mor falch ohoni. Roedd ganddi’r gallu naturiol i gael y gorau o blant a hyd yn oed heddiw mae pobl yn parhau i ddod ata i a fy chwaer a dweud wrthym pa mor wych oedd hi fel athrawes a’i bod wedi’u hysbrydoli.”
Er bod Lois yn un o’r wynebau mwyaf cyfarwydd ar S4C, dyma fydd y tro cyntaf iddi gyflwyno’n broffesiynol ar y radio.
“Mae’n gyffrous iawn ac ychydig yn arteithiol yr un pryd,” dywedodd. “Dwi’n cael gymaint o gyffro wrth weithio’n fyw ni allaf aros i ddechrau ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag Oli.”
Ar wahân i’w ddyletswyddau cyflwyno, mae Oli, sy’n gallu codi mwy na dwywaith ei bwysau ei hun, yn bwriadu cystadlu mewn cystadlaethau dyn cryf gyda’r nod o gystadlu yng Nghystadleuaeth Dyn Cryfaf y Byd yn y pendraw.
Dywedodd Oli: "Rwyf wedi bod yn hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth dyn cryf ers pum mlynedd ar ôl sylweddoli bod gennyf, fel hogyn gweddol fawr, dalent naturiol i godi pethau trwm.
“Gyda maint fy ffrâm i, mae’n gwneud synnwyr i mi wneud y gorau o’m cryfderau, felly rwyf wedi dod o hyd i hyfforddwr proffesiynol.
“Yr unig broblem yw bod angen i mi fod yn y stiwdio erbyn 5 y bore ar gyfer y sioe frecwast, felly bydd angen i mi ail-drefnu fy rhaglen ffitrwydd. Efallai y bydd angen i mi gael Lois i ymuno â fi ar gyfer sesiwn ymarfer ben bore!
“Mae llawer o’r pethau rydym yn eu gwneud yn ymarferion ailadrodd isel, gyda phyliau byr o gryfder ar y tro, codi pwysau 320 cilo, a chanolbwyntio ar gyflyru yn ogystal â chryfder, neu redeg a gwthio teiar anferth am 30 eiliad y tro!
Mae Oli, sydd wedi hyfforddi fel actor a chanwr, hefyd yn breuddwydio am gael chwarae un o gewri’r sgrin fawr yn y dyfodol, megis yr Incredible Hulk neu Darth Vader yn y gyfres Star Wars.
Mae gan Oli, sy’n byw yn Llangollen gyda’i wraig Debbie a’u plant, Delilah, pump oed, a Stanley, sy’n ddwy oed, bron i 20 mlynedd o brofiad fel cyflwynydd radio.
Yn rhyfeddol, daeth ei ddawn i’r amlwg pan oedd yn gweithio i’r gwasanaethau teithwyr ym Maes Awyr Gatwick yn Llundain.
Dywedodd: “Roeddwn yn gwneud y cyhoeddiadau i’r teithwyr ddod ar yr awyren i Cancun ac roedd un o’r teithwyr yn rheolwr gorsaf radio. Dywedodd bod gennyf lais gwych ar gyfer y radio, gwnaeth alwad ffôn ar unwaith a threfnu i’w gydweithwyr fy nghyfweld yn ystod yr wythnos pan oedd ef ar ei wyliau. Y peth nesaf oedd roeddwn ar yr awyr mewn gorsaf leol yng Nghaint ac mae’r gweddill yn hanes.”
Ychwanegodd Oli: “Bydd llawer o bwyslais ar bethau yng Ngogledd Cymru a Chanolbarth Cymru. Mae’r ddau ohonom wrth ein boddau gyda’r rhanbarth hwn. I mi, ni allaf feddwl am unlle gwell yn y byd i fyw. Rwyf wrth fy modd yma. Rwyf mor lwcus fy mod yn cael cyfle i drafod y lle bob dydd gyda fy nghyd-gyflwynydd gwych, Lois a’n holl wrandawyr.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Rhaglen Brand Heart Kyle Evans ei bod yn amlwg o’r cychwyn bod Lois ac Oli yn bartneriaid cyflwyno delfrydol.
Dywedodd: “Cyn gynted ag y clywsom Lois ac Oli gyda’i gilydd roeddem yn gwybod bod gennym rywbeth arbennig iawn. Mae eu lleisiau yn cydweddu’n naturiol ac mae eu sgwrsio yn naturiol iawn, mae fel bod eu meddyliau yn gweithio’n awtomatig ar yr un donfedd.
“Y consensws oedd ei bod yn hollbwysig ein bod yn eu rhoi gyda’i gilydd ar yr awyr oherwydd roedd yn gyfle rhy dda i’w golli i’n gwrandawyr. Mae’n un o’r newidiadau mwyaf cyffrous i ni eu gwneud erioed i’n hamserlen, ac mae’n bosibl y bydd yn boblogaidd iawn.”
Bydd Brecwast Heart gyda Lois ac Oli yn darlledu o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 6-10yb o ddydd Llun, Ebrill 24 ar 88-108 FM