Radio

RSS Icon
18 Awst 2011

DJ Huw yn troi yn olygydd newyddion

RHODDODD y cyflwynydd a DJ BBC Radio Cymru a BBC Radio One, Huw Stephens gam i fyd newyddion ddydd Llun diwethaf, Awst 15, wrth i nifer o wynebau cyfarwydd ymgymryd â’r her o olygu rhaglen newyddion fore BBC Radio Cymru, Post Cyntaf.

Fel golygydd gwadd Post Cyntaf, a gyflwynir gan Garry Owen a Nia Thomas, Huw oedd yn gyfrifol am bennu rhan o agenda newyddion y dydd, gan ddewis pynciau amserol ar gyfer trafodaeth. Dewisodd Huw, sy’n hannu o Gaerdydd, ddau bwnc sy’n agos at ei galon.

“Fues i yn Kenya yn ddiweddar gydag elusen ryngwladol a gweld y gwaith mae nhw yn wneud yna, yn Nairobi a Mombassa,” meddai.

Yn dilyn ei daith mae Huw wedi dechrau noddi plentyn yn Kenya.

“Mae’r sefyllfa yn gwaethygu yn Kenya yn gyson, felly roedden ni’n edrych ar y wlad a thrafod sut oedd elusennau yn helpu. Hefyd, ar nodyn hollol wahanol, roedden ni’n edrych ar sefyllfa PRS (Performing Rights Society) yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r tal mae cerddorion yn cael pan chwaraeir eu caneuon ar Radio Cymru wedi lleihau yn ddiweddar, ac mae’n effeithio ar y sîn gerddoriaeth.”

Roedd y cerddorion Dafydd Roberts a Gai Thomas yn trafod y mater yn ogystal â chynrychiolwyr o PRS a Radio Cymru.

Yn ei fywyd bod dydd mae Huw, sy’n trydar yn gyson ar Twitter, yn dilyn y newyddion ac yn ymddiddori mewn materion cyfoes.

“Fi’n prynu papurau newydd bob dydd ac ar wefannau newyddion y BBC a Guardian drwy gydol y dydd. Mae Twitter yn ffordd anhygoel o ddal lan gyda newyddion y byd hefyd.”

Huw yw’r cyntaf mewn rhestr o wynebau amlwg i ymgymryd â’r her o olygu rhan o’r Post Cyntaf am y dydd. Heddiw tro’r cyn chwaraewr rygbi a Deon Prifysgol Leeds Metropolitan Gareth Davies oedd hi a wythnos nesaf, Russell Jones o raglen Byw yn yr Ardd (22 Awst); cyn-gaplan y fyddin Aled Thomas (24 Awst); Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury (26 Awst) a chofiannydd Lloyd George, Ffion Hague (30 Awst).


Gwrandewch eto ar bbc.co.uk/radiocymru

Post Cyntaf, Llun-Gwener, BBC Radio Cymru, 6.30yh

Rhannu |