Radio

RSS Icon
11 Awst 2011

Hel atgofion am hafau plentyndod

Wrth i BBC Cymru barhau i ymweld â digwyddiadau mawr a bach led led Cymru yr haf hwn, mae hefyd wedi bod yn gyfle i gyflwynwyr BBC Radio Cymru hel atgofion am eu hafau hwythau, a dod o hyd i hen luniau ohonyn nhw.

Fe ddaeth Nia Thomas, sy’n cyd gyflwyno Post Cyntaf gyda Garry Owen bob bore, o hyd i’r llun hwn ohoni yn edrych yn hynod o barchus ar set fach yng ngardd ei rhieni. Ac ar wythnos lle bu’r rhaglen ar daith ledled Cymru, bydd Nia yn ôl yn ei set arferol hithau ddydd Llun yn stiwdio Bangor yn cyflwyno, gyda Garry Owen yng Nghaedydd.

“Mae atgofion hafau fy mhlentyndod yn cynnwys traeth Borthwen ger Llanfaethlu, trip ysgol Sul i'r Rhyl, Primin Môn ac oriau yn yr ardd hefo 'mrodyr a'm chwaer yn chwarae pêl-droed, criced a thenis,” meddai Nia, sy’n byw ar fferm yn ardal Llannerchymedd, Môn, gyda’i gwr a’u dau fab.

“Llinyn bêls oedd y rhwyd tenis ac roedd nifer o'r peli wastad yn llwyddo i fynd yn sownd ar do'r tŷ yn rhywle!

“Roedd y tripiau ysgol Sul i'r Rhyl yn achlysur pentrefol mawr a thri neu bedwar llond bws yn gadael Llannerchymedd - a'r gamp oedd bod y bws cyntaf i gyrraedd. Mae'r ffair oedd cymaint o dynfa am flynyddoedd lawer bellach wrth gwrs wedi cau a'r holl beiriannau yn bentwr rhydlyd.

"Ond cyn dyddiau'r tripiau ysgol Sul mae'n debyg mod i'n eitha’ hoff o fynd allan i'r ardd i ddarllen a bod fy newis o gylchgronau yn wahanol iawn! Fe dynnwyd hwn yn ystod haf 1966 - cyn imi gael fy mhen-blwydd yn dair oed. Roedd Reader's Digest yn cyrraedd ein cartref yn fisol a dwi dal yn eitha’ hoff o bori yn ei dudalennau…ond wn i ddim os dwi'n deall mwy rŵan nag yr oeddwn i dros ddeugain mlynedd nol!

”Dros yr wythnosau nesaf bydd elfen wahanol a difyr i Post Cyntaf wrth i’r rhaglen groesawu golygyddion gwadd am gyfnod, yn cychwyn gyda’r DJ a'r cyflwynydd Huw Stephens a gorffen gyda Ffion Hague.

"Wedi wythnos ar y lon i Garry a finne ar daith haf Post Cyntaf mi fydd hi'n braf bod nol yn y stiwdio yr wythnos nesa. Ond fe fydd 'na sedd ychwanegol yno wrth inni groesawu nifer o olygyddion gwadd fydd yn cynnwys nid yn unig Huw Stephens ond pobl fel y cyn seren rygbi Gareth Davies a'r cyflwynydd lliwgar Russell Jones.

"Y nhw fydd yn cael dewis rhai o bynciau trafod y rhaglen - ond cha'i ddim datgelu be sydd wedi mynd a'u bryd nhw. Y cyfan ddweda i ydi - mi fydd hi'n bythefnos diddorol."

Post Cyntaf, Llun-Gwener, BBC Radio Cymru, 6.30am
.
 

Rhannu |