Radio

RSS Icon
06 Mai 2011

Siân yn ennill Brywdr y Bandiau

AR C2 BBC Radio Cymru nos Fercher, cynhaliwyd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Menter Iaith Cymru a BBC Radio Cymru 2011, a chyhoeddwyd mai’r enillydd yw Siân Miriam o Ysgol Gyfun Llangefni, Sir Fôn.

Bydd y disgybl 17 oed o Langristiolus nawr yn cael cyfleoedd i berfformio mewn amrywiol ddigwyddiadau cerddorol, recordio sesiwn i C2 BBC Radio Cymru a sylw yn y wasg fel rhan o’r wobr.

Wedi misoedd o gystadlu brwd ledled Cymru, daeth pedwar i’r rownd derfynol neithiwr, a phedwar gwahanol iawn o ran steil cerddoriaeth. Yn brwydro am y teitl yn erbyn Siân Miriam roedd Y Saethau o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Downhill, Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa, Cefneithin a Swnami, Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Enw cân fuddugol Siân Miriam yw “Beth yw ystyr rhyfel?”.

Magi Dodd oedd yn cyflwyno rhaglen ar C2 Radio Cymru gyda Rhodri Llwyd Morgan, cerddor a chanwr Cerrig Melys, y DJ Ian Cottrel a chanwr gyda’r band Sibrydion Meilyr Gwynedd yn rhoi eu barn. Ond gyda’r gwrandawyr roedd y bleidlais i ddewis pwy fyddai’n ennill.

“Mae safon y bandiau sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth eleni yn arbennig o uchel, ac fe allai unrhyw un o’r pedwar fod yn enillwyr teilwng,” meddai cyflwynwraig C2 Magi Dodd cyn rhaglen neithiwr.

“Beth sy’n braf yw bod pob un yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r gystadleuaeth, ac mae rhywbeth at ddant pawb yno. Mae wir yn bleser dilyn datblygiad y bandiau yma dros gyfnod y gystadleuaeth – o’u gweld yn fyw, i’w danfon i stiwdios recordio proffesiynol ac yna gael gweld y band buddugol yn manteisio’n llawn o’r wobr ar lwyfan Maes B neu recordio’u sesiwn i C2.”

Cafodd y bandiau gyfle i recordio eu cân ar gyfer y rownd derfynol neithiwr mewn stiwdio broffesiynol, ac wedi eu darlledu ar raglen C2, agorodd y llinellau ffôn i wrandawyr gael bwrw’u pleidleisiau.

Wedi i’r llinellau gau a’r pleidleisiau gael eu cyfri, cyhoeddwyd mai Siân Miriam oedd yr enillydd eleni, ac roedd y sgrechfeydd ben arall y ffôn yn arwydd clir bod Siân wrth ei bodd o glywed y newydd.

Ar raglen Dafydd a Caryl fore ddoe (dydd Iau, 5 Mai), yn ei chyfweliad cyntaf ers clywed ei bod wedi ennill y noson gynt, dywedodd Siân Miriam pa mor hapus oedd o dderbyn o wobr, a bod Caryl Parry Jones yn un o’r rhai a’i hysbrydolodd i ddechrau cyfansoddi a pherfformio, yn ddim ond 9 oed .

Disgrifiodd glywed ei bod wedi ennill fel “noson orau ‘mywyd i” gan ychwanegu am berfformio ym Maes B Eisteddfod eleni fel rhan o’r wobr, “ellai’m dweud pa mor gyffrous ydi hynna!”

Mae’r wobr gyfan yn cynnwys;

cytundeb i recordio Sesiwn i C2 BBC Radio Cymru

perfformio ym Maes B, Eisteddfod Genedlaethol eleni

erthygl tudalen lawn yn un o rifynnau o gylchgrawn ‘Y Selar’

sesiwn luniau hanner diwrnod efo ffotograffydd proffesiynol

gwahoddiad i berfformio yng ngŵyl Huw Stephens, Gŵyl Sŵn 2011

perfformio ar lwyfan Pentref Ieuenctid yn y Sioe Frenhinol eleni

cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru

cyfle i berfformio ar Daith Ysgolion C2 2011

Am fwy am y gystadleuaeth ac i glywed y rownd derfynol ewch i bbc.co.uk/radiocymru Am fwy am y gystadleuaeth ac i glywed y rownd derfynol ewch i bbc.co.uk/radiocymru

Rhannu |