Radio

RSS Icon
01 Ebrill 2011

Brwydr y bandiau

ENNILL gornest y flwyddyn a’r cyfle euraidd i recordio sesiynau, gwneud cyfweliadau a chael eu gweld a’u clywed mewn gwyliau cerddorol, gan gynnwys Gŵyl Sŵn y DJ Huw Stephens - dyna sydd o fewn gafael y pedwar band sydd ar fin mynd ben ben a’i gilydd yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau Menter Iaith Cymru a C2 Radio Cymru 2011 ar Fai 4.

Y pedwar band cyffrous sydd wedi brwydro i’r brig a bachu ar y cyfle i fynychu stiwdio recordio broffesiynol i baratoi ar gyfer y rownd derfynol yw Sian Miriam o Ysgol Gyfun Llangefni; Y Saethau o Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon; Downhill, Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa , Cefneithin a Swnami, Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau.

Mae’r wobr derfynol yn cynnwys ymddangosiad yng Ngŵyl Sŵn Huw Stephens yng Nghaerdydd, sesiwn ar C2 Radio Cymru, lluniau proffesiynol o’r band, cyfweliad yng Nghylchgrawn Y Selar, cyfle i berfformio ar Daith Ysgolion C2 2011 a llawer iawn mwy!

Dyma eiriau un o’r beirniad Rhodri Llwyd Morgan, cyn aelod o Cerrig Melys am Sian Miriam.

“Mae gyda ni fan hyn dalent newydd - mae’n ddewr . . . llais hynod o aeddfed ac mae’n gymeriad cryf, “ meddai Rhodri.

Ysu i glywed rhagor gan Y Saethau wnaiff y beirniad Mei Gwynedd, Y Sibrydion: “A gweld be arall sydd ganddyn nhw i fyny eu llawes. Mae’r llais yn sefyll allan, mae’r geiriau mor gryf - mae’n smart.”

Dywed Rhodri am Downhill ei fod yn “hoffi’r awyrgylch dywyll ‘na ac mae’r offerynu yn gryfder i’r gân.”

Canmol egni Sunami a wnaiff y trydydd beirniad, y DJ a chyflwynydd Ian Cottrell , sydd o’r farn mai nhw sydd â’r gân “sy’n swnion fwyaf proffesiynol o ran strwythur.”


I glywed mwy ewch i bbc.co.uk/radiocymru

Brwydr y Bandiau

Dydd Mercher, Mai 4, BBC Radio Cymru

Rhannu |