Radio

RSS Icon
18 Mawrth 2011

Nigel Owens yn arwain cwis doniol

Wythnos nesaf mi fydd cyfres newydd sbon o gêm banel chwareus BBC Radio Cymru Bechingalw (Dydd Gwener, Mawrth 25) yn dychwelyd gyda llond bol o chwerthin a thynnu coes.

Unwaith yn rhagor mi fydd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens yn arwain y cwis doniol, dychanol a deifiol hwn. Ac os oedd hi’n sialens cadw trefn ar y Crysau Duon mi fydd yr her cymaint mwy i gadw trefn ar gapteiniad drygionus y rhaglen, Geraint Lovgreen a Lyn Ebenezer.

Mi fydd y capteiniaid a’u gwesteion yn ymateb i dasgau Nigel wrth roi cynnig ar farddoni, awgrymu caneuon arbennig i enwogion, adrodd pla o gelwyddau a llawer iawn mwy!

Ymhlith y gwesteion yn ystod y gyfres fydd John Hardy, Elin Fflur, Gillian Elisa, Kevin Davies, Emyr “Himyrs” Roberts, Iestyn Garlick, Gwyn Williams a Beth Angell.

Croeso cynnes i bawb gael bod yn rhan o’r gynulleidfa wrth i’r gyfres gael ei recordio yng Nghlwb Rygbi Bethesda ar Fawrth 22, a Chlwb Criced Bronwydd ar Fawrth 29 am 7.30pm.


BECHINGALW

Dydd Gwener, Mawrth 25, BBC Radio Cymru, 6pm

bbc.co.uk/radiocymru

Rhannu |