Radio

RSS Icon
28 Medi 2012

Darlledu o galon ei chymuned

BYDD Iola Wyn yn cymryd yr awenau yn stiwdio y BBC yng Nghaerfyrddin ar gyfer rhaglen newydd sbon ar BBC Radio Cymru ar ddydd Llun, Hydref 1. Bydd Iola yn diddanu gwrandwyr yr orsaf am ddwy awr o 10.30am bob bore’r wythnos.

Yn gyn newyddiadurwraig a darlledwraig ar Newyddion ac ar BBC Radio Cymru, mae nifer yn ei hadnabod fel cyn-gyflwynwraig Ffermio ar S4C. Daw Iola yn wreiddiol o Aberystwyth ond erbyn hyn mae’n byw gyda’i theulu yn Sanclêr ger Caerfyrddin.

Bydd lleisiau pobl Cymru wrth galon y rhaglen newydd hon. Ac fe fydd cymysgedd eang o gyfrannwyr ac eitemau - o filfeddygon a garddwyr i hel achau a chynnwys o’r archif.

Cynhyrchir y rhaglen hon gan gwmni Telesgop - cwmni annibynnol sydd wedi ei leoli yn y gorllewin.

“Fe wnes i fy ymddangosiad cyntaf ar Radio Cymru yn 7 oed pan ddoth y diweddar Robin Williams draw i ysgol Rhydypennau, Bow Street a gofyn i fi ddarlllen fy nhraethawd ar fy ymweliad ysgol i argraffdy’r Lolfa yn Nhalybont, a gafodd ei ddarlledu ar ei raglen. Roedd e’n gymeriad annwyl iawn ac wnaeth i fi deimlo’n hollol gartrefol. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, fedra i ddim credu y byddai’n cyflwyno fy rhaglen fy hun ar Radio Cymru. Gobeithio y medra i wneud i’r cyfranwyr deimlo mor gysurus ag yr oeddwn i, yn ei gwmni fe.

“Bydd hi’n braf iawn cael cyflwyno o stiwdio Caerfyrddin sydd chwarter awr o fy nghartref yn Sanclêr. Dwi wrth fy modd yng nghanol pobl a bydd darlledu yng nghanol fy nghymuned fy hun yn gyffrous iawn.”

Bydd rhaglen Iola Wyn yn rhan o amserlen newydd BBC Radio Cymru, sy’n cael ei lansio ar Hydref 1af, gyda lleisiau newydd yn ogystal a rhai mwy cyfarwydd yn rhan o’r tîm.

Bydd Nia Roberts yn symud i’r prynhawn o ddydd Llun-Iau o 2.30pm gyda Tudur Owen yn cychwyn y penwythnos am 2.30pm bob ddydd Gwener. A gyda’r nos, mi fydd Geraint Lloyd yn cadw cwmni i wrandawyr yr orsaf o 10pm.

O nos Wener, Hydref 5, tan ddiwedd mis Mawrth bydd Gwilym Rhys o’r grŵp Y Bandana yn ymuno â thîm C2 i gyflwyno rhaglen fyw wythnosol rhwng 6.30 a 9pm. Sioned Mills, sy’n adnabyddus fel un o gyflwynwyr podlediad Hacio’r Iaith, fydd yn cyflwyno’r rhaglen o fis Ebrill. Yna rhwng 9pm a 10pm ceir amrywiaeth o raglenni cerddorol gan gychwyn gyda Huw Chiswell fydd yn cyflwyno detholiad o’i hoff gerddoriaeth o’i gartref yng Nghaerdydd. Yn ogystal a rhaglenni dogfen cerddorol, fe fydd yr awr yma yn cynnig llwyfan i dalent cyflwyno newydd dros y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â newidiadau i’r amserlen wythnosol, bydd Radio Cymru hefyd yn cyflwyno sŵn newydd bob prynhawn Sul am 3pm o Hydref 7 ymlaen. Idris Morris Jones fydd yn cyflwyno Sesiwn Fach, gan rhoi llwyfan wythnosol i gerddoriaeth werin ac acwstig ar y rhaglen newydd gyffrous hon.

 

Rhannu |