Radio

RSS Icon
20 Medi 2012

Comedi newydd Portars yn torri tir newydd

Fe fydd menter newydd ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru yn dwyn ffrwyth am y tro cyntaf wrth i’r ddrama gomedi newydd Portars gael ei darlledu ar BBC Radio Cymru nos Wener, 21 Medi.

Bydd Portars gan Eilir Jones, yn dilyn hynt a helynt criw o borthorion mewn ysbyty ddychmygol.

Ond nid y cymeriadau bywiog yw’r unig beth unigryw am y ddrama radio newydd hon.

Portars yw’r cynhyrchiad cyntaf fel rhan o fenter newydd rhwng S4C a BBC Cymru i ddatblygu syniadau gan awduron drama a chomedi Cymraeg newydd, a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol a allai fod yn addas i’r teledu neu’r radio - neu’r ddau gyfrwng.

Bwriad y ddau ddarlledwr Cymraeg yw gweithio gyda’i gilydd er mwyn datblygu a meithrin talent ysgrifennu newydd gan greu rhaglenni gwahanol i’r ddau gyfrwng fel ei gilydd, ac adloniant difyr yn y Gymraeg.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys S4C, Gwawr Martha Lloyd, ei bod yn hyderus y bydd y cydweithredu creadigol yn dwyn ffrwyth i wylwyr S4C a gwrandawyr BBC Radio Cymru.

“Mae’n gyffrous i weld gwaith S4C a BBC Cymru ar y cyd yn dwyn ffrwyth gyda darlledu Portors.  Rydyn ni bob amser yn chwilio am syniadau cryf a sgriptiau graenus i ddatblygu rhaglenni ar gyfer S4C ac yn hynny o beth, rydyn ni’n rhannu her gyda BBC Radio Cymru.  Bydd datblygu awduron sy’n gallu cynhyrchu gwaith o safon uchel o fantais i ni gyd yn y pen draw.

“Dwi’n ffyddiog y bydd y cydweithio yn fodd i greu mwy o gyfleoedd i awduron ac yn ffordd o gynnig dewis eang o ddramâu a chomedïau i’r gwylwyr a’r gwrandawyr yn y dyfodol.”

Meddai Golygydd BBC Radio Cymru, Lowri Rhys Davies. “Rwy’n falch iawn bod BBC Radio Cymru ac S4C yn cydweithio i ddatblygu talent ysgrifennu - i’r ddau gyfrwng - fel hyn.  Hon ydi’r enghraifft gyntaf o gydweithredu o’r fath rhyngom a dwi’n siŵr y bydd digonedd o gynnyrch yn y dyfodol i ddifyrru a diddori cynulleidfa’r ddau ddarlledwr.”

Bydd mwy o fanylion am y prosiect, gan gynnwys sut i gynnig syniadau neu sgriptiau, yn dilyn dros y misoedd nesaf.

Darlledir y ddrama Portars am 6.00pm, nos Wener, 21 Medi ar BBC Radio Cymru, gydag ail ddarllediad am 12.00pm ddydd Sadwrn, 22 Medi.

 

Rhannu |