Radio
Adfeilion a thor calon
BYDD cyfres newydd o raglen materion cyfoes BBC Cymru, Taro Naw, yn dechrau yr wythnos hon (Dydd Llun, Mawrth 14) gydag adroddiad arbennig o Seland Newydd gan Garry Owen, a fydd yn gohebu o ddinas a brofodd ddinistr enbyd o ganlyniad i’r daeargryn diweddar, sef Christchurch. Bydd Garry yn ymweld â’r ardaloedd a ddioddefodd waethaf, yn cwrdd â theuluoedd Cymraeg sydd wedi colli eu cartrefi ac eraill sydd yn bryderus am eu dyfodol yn y ddinas. Isod mae’n sôn am y profiad emosiynol o deithio yno a’r hyn a ganfu wedi cyrraedd.
“Chi’n teithio i Christchurch? Os oes angen unrhyw beth arno chi, dewch i ofyn. Mae’r cyfan mor drist”.
Roedd staff caban yr awyren Air New Zealand hyd yn oed yn fwy parod nag arfer i helpu. Y bore hwnnw roedd y teithwyr yn cynnwys nifer o bobol oedd yn teithio adre i Seland Newydd heb wybod yn iawn beth oedd yn eu disgwyl. Roedd un wraig yn y sedd o mlaen i yn crio am y rhan fwyaf o’r siwrne. Fe welais i dîm achub o Fecsico hefyd ar yr awyren. Oedd, roedd y daith hon yn un anodd i lawer ar ôl y daeargryn wnaeth daro ail ddinas fwyaf Seland Newydd ar y 22ain o Chwefror.
Roedd Glesni Jones, cynhyrchydd y rhaglen hon o Taro Naw, a finne yn teithio i Christchurch i gwrdd â Chymry oedd wedi eu dal ynghanol y drasiedi. Ond Cymry yn ffoi o’r ddinas oedd y cyntaf i ni siarad â nhw, teulu o Feddgelert oedd ar eu gwyliau yno ac wedi cael dihangfa lwcus. Roedd y rhyddhad o adael a chael dychwelyd adre yn ddiogel yn amlwg. Ar yr un pryd, roedd yna dristwch ac addewid y bydde nhw yn ‘dod nôl’.
O’n cwmpas ymhobman roedd timau o bobol oedd wedi cyrraedd er mwyn helpu a bod yn rhan o ymdrech ryngwladol. Roedd y croeso roedden nhw yn ei gael yn dweud cyfrolau.
Y bore wedyn fe naethon ni gwrdd â’n dyn camera. Un o fois y ddinas oedd Brian Nelson. Roedd e’n brofiadol tu hwnt, ac wedi treulio’i oes yn ffilmio adeiladau ac atyniadau mwyaf eiconig Christchurch. Roedd deigryn yn ei lygad wrth iddo ddweud bod y cyfan nawr yn deilchion.
Fe aeth Brian â ni yn ei gar i weld y dinistr. Ond doedd y siwrne ddim yn un hawdd, Roedd heolydd a phontydd wedi’u cau ymhobman am eu bod nhw yn beryglus. Ar hyd a lled Christchurch fe welson ni adfeilion a thor calon. Roedd yna nerfusrwydd hefyd, a phobol ar bigau’r drain yn poeni y gallai daeargryn arall daro. Fe wnaethon ni deimlo nifer o ôl gryniadau pwerus tra roedden ni yno. Ond yr un yn hwyr y noson honno oedd fwyaf brawychus yn cyrraedd 4.6 ar raddfa Richter.
Y bore wedyn, hwnnw oedd y brif stori ar fwletinau cynnar y newyddion teledu, radio a’r papurau dyddiol. Ar ôl paned o goffi sydyn, a berwi’r tegell o leia ddwywaith, er mwyn sicrhau bod y dŵr yn ddiogel i’w yfed, fe aethon ni i gwrdd â rhai o’r Cymry sy’n byw yn y ddinas. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i wedi sylweddoli pa mor gryf oedd y cysylltiad rhwng y ddwy wlad o’r blaen. Fe wnaeth hyd yn oed maer Christchurch fy synnu trwy ddymuno dydd Gŵyl Dewi hapus i fi a nghyflwyno i un o’i ymgynghorwyr – Glyn Dafydd!
Ar ôl tridiau, fe ddaeth hi yn amser i ni i ddychwelyd. Bryd hynny roedd nifer y meirw yn dal i gynyddu ac ansicrwydd mawr ynglŷn â chost ail adeiladu Christchurch ar ôl y chwalfa. Cyn gadael, roedd angen i fi alw heibio i weld Twm Pritchard. Roedd e wedi bod yn garedig iawn ar ôl i fi gyrraedd ac wedi rhoi benthyg ei ffôn symudol i fi.
“Be wy ti’n feddwl sydd ei angen ar Christchurch nawr?” gofynais i iddo. “Hyder,” medde fe yn bendant “a ddaw hynny ddim dros nos.”
Taro Naw: Seland Newydd,
Dydd Llun, Mawrth 14,
BBC Cymru ar S4C, 9.30pm
bbc.co.uk/cymru