Mwy o Newyddion
Ymchwil yn dangos bod cyllid Ewropeaidd yn cael effaith bositif
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos yma mae Cymru wedi elwa’n fawr ar raglenni Cronfeydd Strwythurol 2000–2006.
Mae Adroddiad Gwerthuso Cronfeydd Strwythurol yn dangos bod y rhaglenni, sydd werth £3.8 biliwn, gan gynnwys arian Amcan 1 Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, wedi dod â manteision helaeth i bobl Cymru, gan ragori ar nifer o dargedau allweddol wrth greu swyddi, mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd a chefnogi busnesau.
Yn ystod 2000–2006, roedd prosiectau’r UE a gyflawnwyd drwy bartneriaethau wedi helpu i greu 52,800 net o swyddi a 3,100 net o Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh). Yn ogystal, roeddent wedi helpu cyfranogwyr i ennill ychydig dros 200,000 o gymwysterau ac wedi cynorthwyo 98,700 (net) o unigolion economaidd anweithgar / di-waith i gael hyd i swydd neu gwrs addysg bellach.
Hefyd, adeiladwyd neu uwchraddiwyd 185km o lwybrau trafnidiaeth, adfywiwyd naw canol tref ac fe gafodd dros 370,000 tunnell o wastraff trefol ei ailgylchu neu gompostio. Creodd y rhaglen fuddiannau cymunedol ehangach, drwy ddatblygu partneriaethau a meithrin y capasiti cysylltiedig.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos pwysigrwydd Cronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer ein helpu ni i adfywio economi Cymru a lleihau’r gwahaniaethau economaidd hanesyddol a oedd mor amlwg cyn cyfnod datganoli. Gwelir hyn yn arbennig o glir yn yr ystadegau cyflogaeth a lefelau incwm – dau faes sy’n arbennig o bwysig i bobl Cymru.
“Mae nifer o heriau’n ein hwynebu o hyd os ydym i greu cenedl gynaliadwy, gynhwysol a ffyniannus, ond dyna’n union mae ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol yn ceisio ei wneud. Mae’r llwyddiannau a amlinellir yn yr adroddiad yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid, gyda chefnogaeth werthfawr a pharhaus y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, wedi cychwyn taclo effeithiau tymor hir y dirywiad a’r newidiadau strwythurol a sut rydym yn helpu i wella’r economi a bywydau pobl Cymru”.
Cyhoeddir yr adroddiad hwn wrth inni nesáu at ddiwedd rownd gyllido ddiweddaraf yr UE (2007–2013). Mae’r prosiectau diweddaraf hyn eisoes wedi helpu tua 35,000 o bobl i gael hyd i waith ac 83,000 i ennill cymwysterau. Hefyd, mae bron i 11,000 o swyddi (gros) wedi’u creu a 2,150 (gros) o fusnesau newydd wedi’u sefydlu.
Bellach, mae paratoadau ar droed ar gyfer darpar raglenni Ewropeaidd 2014 - 2020 yng Nghymru.
Ychwanegodd Mr Davies: “Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym yn benderfynol o ddatblygu ffyrdd newydd, effeithiol ac arloesol o ddefnyddio cyllid yr UE, er mwyn sicrhau bod ein Rhaglenni Ewropeaidd ni ymhlith y rhai mwyaf llwyddiannus yn yr UE.”
Cyhoeddir y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi cyllid yr UE yn y dyfodol ym mis Mai eleni, unwaith y bydd y llywodraeth wedi casglu sylwadau cychwynnol gan ei phartneriaid yng Nghymru ynghylch y gwersi a ddysgwyd o’r rhaglenni cyllid Ewropeaidd a fu. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar ddiwedd 2012 / dechrau 2013, ar y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol y mae Cymru’n debygol o fod yn gymwys ar eu cyfer. Yn 2013, mae’n debyg, y daw’r cyhoeddiad ynghylch maint y cyllid a ddyrennir i Gymru.
Mae crynodeb o’r adroddiad ar gael ar www.wefo.cymru.gov.uk