Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mawrth 2012

Cymorth ar-lein i chwilio am gartref

Mae gwefan newydd wedi ei lansio sy’n cynnig help a chyngor i bobl leol sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i rywle addas i fyw.

Bydd gwefan Tai Teg yn galluogi pobl i gofrestru eu manylion a bydd yn rhoi gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf a’r gwahanol ddewisiadau sydd ar gael o ran grantiau.

Mae Tai Teg wedi ei anelu at bobl leol na allant fforddio prynu ar y farchnad agored ar hyn o bryd, ac a allai fod yn gymwys am help.

Mae’r wefan newydd yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd, Cyngor Môn a’u partneriaid, sef chymdeithasau tai, Llywodraeth Cymru, datblygwyr preifat a gwerthwyr tai – i roi gwybodaeth am dai sydd ar gael, a sut i wneud ceisiadau am gymorth ariannol.

Meddai Elliw Llyr, Rheolwr Strategol Polisi Tai Cyngor Gwynedd: “Mae llawer ohonon ni’n gwybod am y problemau sy’n wynebu pobl leol wrth iddyn nhw drio cael hyd i dai fforddiadwy yn eu cymunedau.

“Mae’r broblem yn fwyaf amlwg i brynwyr am y tro cyntaf, neu’r rheini sydd wedi gweld newid yn eu hamgylchiadau, er enghraifft, rhywun yn gorfod chwilio am gartref newydd ar un cyflog ar ôl i berthynas chwalu, neu deulu sy’n tyfu’n chwilio am dŷ mwy.

“Mae yna gynlluniau sy’n rhoi help i bobl leol yn y sefyllfaoedd hyn, ac mae Tai Teg yn rhoi gwybodaeth am y rhain.

“Mae hefyd yn cynnwys ffurflen gofrestru syml ar-lein y gall pobl sy’n chwilio am gartref ei llenwi – fel bod cysylltiad yn cael ei ffurfio rhwng y cynlluniau sydd ar gael a’r rheini sydd angen cymorth i brynu.”

Ychwanegodd: “Mi fyddwn i’n pwyso ar bobl sy’n ei chael hi’n anodd i rentu neu brynu eu tŷ eu hunain ar y farchnad agored i ymweld â’r wefan ac i gofrestru eu manylion fel y byddan nhw’n cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf wrth iddyn nhw ddigwydd.

“Mae hefyd yn arf pwysig i’r Cyngor ddysgu ynghylch lle mae’r angen am gartrefi fforddiadwy a beth ydi’r problemau sy’n wynebu pobl, fel y medrwn ni addasu’n polisïau a’n rhaglenni gwaith i helpu cymunedau Gwynedd.”

Bydd Tai Teg yn ategu’r gwahanol gynlluniau sydd eisoes ar waith yng Ngwynedd i helpu darparu cartrefi addas i’w prynu neu ar rent i bobl leol.

 

Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys:

Cymorth i brynu neu ran-brynu tŷ cymdeithas dai
Trefniadau cyfreithiol i sicrhau bod tai a godir o’r newydd yn cael eu cadw ar gyfer y farchnad leol
Cynlluniau i ailddefnyddio tai gwag
Gweithio gyda landlordiaid preifat i sicrhau bod tai ar gael ar rent.

Rhannu |