Mwy o Newyddion
Rhybudd am gynlluniau tâl rhanbarthol
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS wedi beirniadu cynlluniau tâl rhanbarthol a gyhoeddwyd yn y Gyllideb.
Mae'r Canghellor George Osborne wedi dweud y bydd adrannau llywodraeth yn medru cyflwyno tâl rhanbarthol pan fydd rhewi cyflogau'r sector gyhoeddus yn dod i ben.
Rhybuddiodd Mr Edwards, a sicrhaodd ddadl seneddol ar dâl rhanbarthol ym mis Ionawr, y byddai hyn yn cyflwyno tâl rhanbarthol drwy'r drws cefn er mwyn osgoi beirniadaeth chwyrn.
Dywedodd Mr Edwards: "Bydd cynlluniau tâl rhanbarthol yn golygu gwir dorriadau ar gyfer gweithwyr sector gyhoeddus yng Nghymru ac yn defodi cyflogau isel a diffyg uchelgais.
"Yr hyn sydd wedi digwydd heddiw yw fod George Osborne wedi taflu’r baich ar dâl rhanbarthol, heb wneud dim byd i'w rwystro.
"Bydd y penderfyniadau yn cael eu gwneud adran wrth adran, a'r cynllun yn cael ei gyflwyno drwy'r drws cefn er mwyn osgoi beirniadaeth.
“Mae record Llywodraeth y DU ar weithwyr y sector gyhoeddus yn gwbl warthus.
“Rydym wedi gweld torriadau mewn termau real ar gyfer staff graddfa ganol, mwy na 700,000 o swyddi yn cael eu colli dros chwe mlynedd, a phensiynau’n cael eu pigo o bocedi pobl arferol.
"Yng Nghymru, mae'n amlwg ein bod angen tyfu ein sector breifat, ond ni ddaw hynny o ganlyniad i dorri swyddi sector gyhoeddus a thorri'r swm o arian sy'n cylchredeg yn ein cymunedau.
"Dylai’r penderfyniadau dros dâl ac amgylchiadau gweithwyr yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru, nid San Steffan."