Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mawrth 2012

Hwb o £2.2m i lyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd Cymru

Mae’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau yng Nghymru yn cymryd cam ymlaen, diolch i’r £2,298,096 gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddir yr wythnos yma gan y Gweinidog Treftadaeth, Huw Lewis.

Defnyddir yr arian i wella gwasanaethau ac annog mwy o bobl i’w defnyddio a manteisio ar gyfleoedd dysgu. Fe’i defnyddir hefyd i ddiogelu casgliadau pwysig a datblygu gwybodaeth ac adnoddau ar-lein sy’n hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru.

Bydd yr arian yn helpu i foderneiddio wyth o’n llyfrgelloedd cyhoeddus. Rhoddir dros £1m i ddarparu cyfleusterau modern yn llyfrgelloedd Caerffili, Pontycymer, y Betws, y Waun, yr Wyddgrug, Prestatyn, Baglan ac Aberaeron.

Un o brif amcanion y rhaglen foderneiddio hon yw creu canolfan ddiwylliannol a deniadol yn y gymuned gyda lle ar gyfer pob math o weithgareddau. Gallai’r gweithgareddau gynnwys sesiynau dweud stori i blant, defnyddio cyfrifiaduron am ddim, a darparu cysylltedd Wi-Fi ar gyfer dyfeisiau symudol, a hyn i gyd ochr yn ochr â’r llyfrau, sy’n dal yr un mor boblogaidd.

Dywedodd Huw Lewis: “Mae ein llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau yn cyfoethogi addysg a gwybodaeth pobl. Mae’n hanfodol bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio a mwynhau eu casgliadau, a bydd yr arian hwn yn ein helpu i hyrwyddo ein diwylliant a’n treftadaeth.

“Bydd yr amgueddfeydd a’r archifau’n gallu manteisio ar y grantiau i ddiogelu casgliadau pwysig, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau, a chynnal gweithgareddau dysgu i bobl o bob oedran er mwyn dod â’r casgliadau hyn yn fyw. Bydd y prosiectau’n cysylltu â chymunedau lleol trwy annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel dysgu sgiliau newydd, dysgu sut i ofalu am gasgliadau, a datblygu arddangosfeydd sy’n dangos bywydau pobl gyffredin.

“Mae’r gwaith moderneiddio wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n ymweld â’n llyfrgelloedd, a bydd y gwaith addysgiadol a’r prosiectau cymunedol yn sicrhau bod mwy fyth o bobl yn cael manteisio ar ein hamgueddfeydd ac archifau.”

CyMAL: yr is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd, Llywodraeth Cymru, sy’n gweinyddu’r rhaglen ariannu hon.

Llun: Huw Lewis

Rhannu |