Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Mawrth 2012

Anwybyddu galwadau teuluoedd a busnesau i weithredu ar brisiau tanwydd

Mae Elfyn Llwyd AS Plaid Cymru wedi beirniadu methiant Llywodraeth y DU i weithredu ar brisiau tanwydd ger y pwmp wrth iddynt gyhoeddi y bydd treth tanwydd yn cynyddu gyda chwyddiant.

Galwodd Mr Llwyd am reolydd tanwydd teg a fyddai’n atal prisiau uchel ger y pwmp.

Dywedodd Mr Llwyd: “Mae prisiau tanwydd cynyddol yn broblem fawr i deuluoedd a busnesau yn fy etholaeth.

“Mae’n debyg eu bod yn codi yn gyson, be bynnag fo’r llwyodraeth yn ei honni – hefyd felly y treth tanwydd maent yn ei gasglu.

“Dylai George Osborne gyflwyno sefydlogydd treth tanwydd, fel a gefnogir gan fudiadau moduro a’r Ffederasiwn Dros Fusnesau Bach, a fyddai’n capio pris petrol wrth y pwmp pe bai’n codi y tu hwnt i ddisgwyliadau.

“Mae Plaid Cymru wedi galw am hyn ers 7 mlynedd bellach ond nid yw’r llywodraethau Llafur na Cheidwadol yn Llundain wedi cytuno i’r syniad hwn sy’n ddim mwy na synnwyr cyffredin.

“Mae ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos fod teuluoedd tlotach yn gwario mwy o’u hincwm ar betrol na theulouedd cyfoethocach, a bod teuluoedd gwledig yn talu mwy na theuluoedd trefol.

“Yn yr hir dymor, serch hynny, rhaid i ni symud oddi wrth ein dibynniaeth ar danwyddau ffosil a thuag at economi wyrddach.

“Gan nad oes hyd yn oed un pwynt gwefru car trydan cyhoeddus ym mhob etholaeth yng Nghymru, heb son am ym mhob tref neu stryd, ni fydd pobl yn cael eu perswadio i newid y drefn arferol.”

Llun: Elfyn Llwyd

Rhannu |