Mwy o Newyddion
Gwasanaeth mabwysiadu cyflymach a mwy diogel
Heddiw [dydd Iau 22 Mawrth] cyfarfu Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, â theulu yng Nghaerdydd er mwyn clywed am eu profiadau wrth fabwysiadu.
Mae gan y teulu Jones dri phlentyn, dau ohonyn nhw wedi’u mabwysiadu. Clywodd y Dirprwy Weinidog sut y newidiodd y broses fabwysiadu eu bywydau, a hefyd bu’n siarad â chynrychiolwyr o asiantaeth fabwysiadu Cymdeithas Plant Dewi Sant.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Gallwn ddysgu llawer gan deuluoedd sydd eisoes wedi ymgymryd â’r siwrnai hon. Dyna pam y byddwn yn comisiynu gwaith ymchwil i’r profiadau a gawsant; ac yn nodi’r rhwystrau a’r rhesymau ymddangosiadol dros yr oedi yn y broses fabwysiadu.
“Gall unrhyw oedi i achos plentyn niweidio’i ragolygon i gael ei fabwysiadu, ac rydyn ni’n edrych ar bob ffordd bosib i helpu’r plentyn i setlo i lawr yn gynt gyda’r teulu sy’n ei fabwysiadu.
"Bydd y gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol newydd yn gweithio gydag asiantaethau sydd eisoes yn bodoli er mwyn sicrhau nad yw’r plant yn cael eu gadael mewn gofal am un diwrnod yn fwy na’r hyn sydd raid os mai mabwysiadu sydd orau iddynt.
“Rwyf am weld diwedd ar y rhestrau aros i ddarpar fabwysiadwyr sy’n wynebu oedi sylweddol ar gyfer eu hyfforddi a’u hasesu; rwyf am weld y broses baru’n gwella; lleihad ym methiant mabwysiadu yn sgil gwasanaeth cymorth cynhwysfawr, a’r broses fabwysiadu’n cael ei symleiddio.
“Y ffordd orau i sicrhau hyn yw trwy sefydlu fframwaith mabwysiadu cenedlaethol sy’n gweithredu ar sail Cymru gyfan.