Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Mawrth 2012

Rhaglen frechu i ddileu TB gwartheg

Mae’r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Alun Davies wedi cyhoeddi neges i ffermwyr yn dilyn penderfyniad Gweinidog yr Amgylchedd i gyflwyno rhaglen frechu fel rhan o’r ymdrechion i ddileu TB gwartheg.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae TB gwartheg wedi achosi dinistr yn ein cymunedau ffermio ers blynyddoedd. Mae miloedd o anifeiliaid yn gorfod cael eu lladd o’i herwydd bob blwyddyn ac mae’n costio miliynau lawer o bunnoedd i’r diwydiant amaeth ac i Lywodraeth Cymru.

“Mae’r clefyd hwn yn cael effaith ddinistriol ar bobl hefyd. Mae teuluoedd sy’n colli buches gyfan yn gallu colli eu bywoliaeth, ac oes gyfan o waith caled. Mae’n brofiad dirdynnol hefyd i’r teuluoedd y gosodir cyfyngiadau hirdymor ar eu buchesi.

“Mae Llywodraeth Cymru ar ochr y ffermwyr a’r gymuned ffermio ac rydym yn benderfynol o ddileu TB gwartheg, sy’n gwmwl du dros gefn gwlad Cymru.

“Rwy’n croesawu datganiad y Llywodraeth sy’n cadarnhau nad yw’n fodlon gadael i’r clefyd hwn barhau i ddinistrio’r gymuned ffermio. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith bod y Llywodraeth yn barod i weithredu ar frys yn awr i ddileu ffynonellau’r haint yn ein hanifeiliaid gwyllt.

“Mae’r datganiad hwn yn golygu ein bod am gymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r broblem o drosglwyddo’r clefyd o anifeiliaid gwyllt i wartheg. Rwy’n gwybod y bydd ffermwyr yn croesawu’r ffaith bod y rhaglen frechu hon yn mynd i gael ei rhoi ar waith yn gyflym nawr.

“Mae Llywodraeth ar ôl Llywodraeth wedi ceisio dileu’r clefyd hwn a hoffem gydnabod y gwaith a wnaed gan y weinyddiaeth flaenorol. Y gwaith cynhwysfawr hwn sydd wedi gosod y sail ar gyfer polisi’r Llywodraeth bresennol.

“Mae’r gymuned ffermio eisoes wedi gweithio’n galed i roi gweithdrefnau bioddiogelwch ar waith er mwyn atal y clefyd rhag cael ei drosglwyddo rhwng gwartheg, ac rwy’n ddiolchgar am yr ymrwymiad a ddangoswyd gan gannoedd o ffermwyr Cymru.

“Rwy’n gobeithio y bydd y gymuned ffermio a’r milfeddygon yn parhau i gydweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, gallwn gyflawni’r canlyniadau yr ydym oll am eu gweld a helpu i ddileu TB yn llwyr yng Nghymru.”

Rhannu |