Mwy o Newyddion
Cynghorydd arall yn ymuno â Phlaid Cymru
Mae Plaid Cymru yng Ngwynedd wedi croesawu aelod newydd arall i’w plith sef y Cynghorydd Guto Rhys Tomos, yr aelod sy’n cynrychioli Cricieth.
Etholwyd y Cynghorydd Tomos fel Cynghorydd Annibynnol yn yr etholiad diwethaf ond bydd nawr yn ymuno â Phlaid Cymru. Bydd yn sefyll fel ymgeisydd Plaid ar gyfer Cricieth yn etholiadau lleol Cyngor Gwynedd ar Fai’r 3ydd.
Ef yw’r ail gynghorydd y mis yma i ddatgan ei gefnogaeth i Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ac mae’n credu y bydd bod yn rhan o dîm Plaid yn ei alluogi i wasanaethu ei gymuned yn fwy effeithiol.
“Dwi wedi bod yn meddwl am ymuno ers peth amser oherwydd dwi’n credu bod gan Blaid Cymru'r profiad a’r gallu i arwain a llywodraethu yn gyfrifol yn y cyfnod heriol hwn,” meddai’r Cyng. Tomos.
“Mae angen dwylo profiadol wrth y llyw ond hefyd mae angen plaid sydd yn mynnu bod yn uchelgeisiol dros y sir a’i phobl, er gwaetha’r wasgfa. Plaid Cymru ydi’r blaid sydd â’r weledigaeth i greu dyfodol cadarn yng Ngwynedd a dwi’n edrych ymlaen at gydweithio er lles pobl Gwynedd.”
Dywedodd Arweinydd Plaid Cynghorydd Dyfed Edwards ei fod “wrth ei fodd” bod Cyng. Tomos wedi ymuno gyda Plaid.
"Yn naturiol dwi wrth fy modd bod Guto wedi ymuno gyda Plaid Cymru. Dwi’n gwybod ei fod wedi ystyried yn ddwys cyn troi i fod yn aelod o Blaid Cymru a dwi’n parchu'r ffordd y mae wedi gwneud y penderfyniad hwn.
"Bydd yn sicr o wneud cyfraniad rhagorol i grŵp Plaid ar Gyngor Gwynedd a bydd yn cydweithio fel rhan o Dîm Gwynedd. Mae Tîm Gwynedd Plaid Cymru yn uchelgeisiol ac yn flaengar, a’n prif flaenoriaeth yw cynrychioli ein trigolion hyd eithaf ein gallu o fewn y sir arbennig hon."
Llun: Y Cynghorydd Guto Rhys Tomos