Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Mawrth 2011

Codi cwestiwn trawsblannu

MAE Arglwydd newydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley wedi cyhoeddi y bydd yn codi mater newid y gyfraith ar roi organau yng Nghymru ar lawr Tŷ’r Arglwyddi ymhen tair wythnos.

Bydd yr Arglwydd Wigley yn pwyso ar lywodraeth y DG i wneud eu hagwedd yn glir ar fater newid y gyfraith ar gydsynio i roi organau, ac i ymateb i sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Byddai newid i drefn o ‘optio allan’ yn ei gwneud yn haws sicrhau cyflenwad o organau hanfodol i bobl mewn angen.

Dyma’r tro cyntaf i’r Arglwydd Wigley allu cyflwyno cwestiwn llafar i’r Ail Siambr.

Bu’r Arglwydd Wigley yn ymwneud â’r ddadl ar y mater hwn a materion ehangach dros ddegawdau. Bu hefyd yn dal swydd Is-Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol Seneddol ar Anabledd am ddeng mlynedd pan oedd yn AS yn Nhŷ’r Cyffredin.

Meddai’r Arglwydd Wigley: “Rwy’n falch fod y cwestiwn llafar cyntaf y llwyddais i sicrhau ar y pwnc pwysig hwn.

“Ffaith annifyr y mater yw bod oedi yn costio bywydau. Mae rhywun yng Nghymru yn marw bob 11 diwrnod wrth aros am drawsblaniad organ. Mae cefnogaeth eang i newid y system bresennol ledled Cymru. Byddai’r newidiadau arfaethedig i’r gyfraith yn golygu fod gan unrhyw un nad yw am roi organau yr hawl i wneud y dewis hwnnw, ac optio allan.

“Wrth gwrs, mae’n fater sy’n ganolog i bwerau’r Cynulliad Cenedlaethol ddylai gael yr hawl i wneud cyfreithiau yng Nghymru a thros Gymru heb gydsyniad y naill Dŷ na’r llall yn San Steffan.”

Rhannu |